Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Anrhydeddu鈥檙 Cyngor yn Sioe鈥檙 Sir
Published: 21/08/2023
Roedd newid hinsawdd ar y rhaglen yn Sioe Dinbych a Fflint eleni.
Daeth Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Sir Ddinbych ynghyd ar gyfer cynnal stondin ar newid hinsawdd yn y digwyddiad poblogaidd ar 17 Awst.
Roedd y staff yn annog pobl i gymryd rhan yn y gweithgareddau gwahanol er mwyn cynnwys y teulu cyfan yn y drafodaeth ar newid hinsawdd.

Roedd y bobl ifanc yn trafod eu heffaith ar yr amgylchedd a chawsant eu gwobrwyo 芒 medalau 鈥榗efnogwr yr hinsawdd鈥 pren am wneud addewidion ynghylch carbon. Cafwyd gemau hwyliog, arolygon 芒 bwcedi a chyfleoedd i ddysgu am ynni adnewyddadwy.
Enillodd y stondin, a oedd wedi鈥檌 haddurno ag arddangosfeydd blodau hyfryd, planwyr wedi鈥檜 huwchgylchu a wal fyw diolch i brosiect garddwriaeth Tri-Ffordd, ros茅d yng nghategori鈥檙 stondinau anamaethyddol.
Meddai鈥檙 Cynghorydd Dennis Hutchinson, Is-gadeirydd Cyngor Sir y Fflint: 鈥淢ae鈥檔 wych gweld y ddau gyngor yn parhau i gryfhau eu gwaith gyda鈥檌 gilydd ac ymgysylltu 芒 phreswylwyr ar bwnc pwysig iawn. Rydym yn falch bod beirniaid y sioe wedi cydnabod ein hymdrechion i gyflawni hyn.鈥