天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Off Flint 鈥� Dathlu ein tref, ein castell a鈥檔 harfordir

Published: 31/07/2023

exhibition invitation_page-0001.jpgEstynnir gwahoddiad i chi ddod i weld gwaith celf bendigedig ar y thema 鈥極ff Fflint鈥� a gr毛wyd gan y bobl ifanc sy鈥檔 mynd i Glwb Celf Helen Taylor yn Llyfrgell y Fflint.

Ym mis Tachwedd 2022 dechreuodd yr artistiaid, sydd rhwng 7 a 14 oed, ddarlunio Castell y Fflint mewn arddulliau hanesyddol poblogaidd yn cynnwys Celf Ganoloesol, Argraffiadaeth a Chelf Pop gydag ychydig o ryddid celfyddydol personol!

Aethant ymlaen i ddarlunio鈥檙 bobl sydd wedi byw a gweithio yn y Fflint ers i鈥檙 Castell gael ei adeiladu er mwyn creu montage o dorf.

Wrth i鈥檙 prosiect fynd yn ei flaen cynhyrchodd y plant fwy o waith celf anhygoel yn cynnwys collage ar y cyd o adar ar Aber Dyfrdwy, pysgod mewn cyfryngau cymysg a darluniadau o鈥檙 gerdd 鈥楽ands of the River Dee鈥� gan Charles Kingsley.听

Roedd y prosiect terfynol yn edrych ar gychod Aber Dyfrdwy drwy hanes i greu ail ganfas cydweithredol.听

Mae鈥檙 arddangosfa鈥檔 cael ei chynnal o 28 Gorffennaf gan 29 Awst gyda mynediad am ddim yn ystod oriau agor arferol y llyfrgell.

Mae Helen Taylor yn artist proffesiynol sydd wedi鈥檌 hysbrydoli gan J. M. W. Turner ac wrth ei bodd yn creu tirluniau gweadol atmosfferig gydag acrylig. Mae Helen yn arddangos ei gwaith yn rheolaidd ac ar hyn o bryd mae rhai o鈥檌 phaentiadau wedi鈥檜 harddangos yn yr Wyddgrug, Qube yng Nghroesoswallt, arddangosfa Life: Full Colour in Caernarfon ac yn听 Ffair Gelf Lerpwl 2023 Mae Helen wedi bod yn rhedeg dosbarthiadau celf yn lleol ers 2011 ac mae hi hefyd yn gweithio ar amrywiaeth eang o brosiectau celf cymunedol.

Mae 鈥極ff Fflint鈥� yn cynnwys pobl leol mewn cofnodi, cadw a dathlu treftadaeth gyfoethog tref, castell ac arfordir y Fflint. Gwahoddir unigolion a grwpiau i gymryd rhan drwy gasglu a rhannu hen ffotograffau, arteffactau a straeon bob dydd am y Fflint a fydd yn cael eu defnyddio i gychwyn archif gymunedol newydd yn Llyfrgell y Fflint fel bod y wybodaeth ar gael i bawb. Cynhelir sesiynau galw heibio anffurfiol yn Llyfrgell y Fflint bob bore Mawrth o 10am tan hanner dydd yn ystod y tymor ysgol.

I gael rhagor o fanylion cysylltwch 芒 Jo Danson -听jo.danson@flintshire.gov.uk听

IMG-8723.jpg听Birds of the Dee.jpeg

听

听