天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Rhybudd ar ôl Adroddiadau o 鈥楪nocwyr Nottingham鈥� yn ardaloedd Sir y Fflint a Wrecsam

Published: 19/07/2023

Mae Safonau Masnach Sir y Fflint yn dymuno rhybuddio pobl yn dilyn cyfres o ddigwyddiadau ar draws Sir y Fflint yn cynnwys cnocwyr Nottingham, a elwir hefyd yn 鈥榳erthwyr cadachau鈥�.听

Bechgyn ifanc ydyn nhw fel arfer, yn dod at eich drws gyda bag mawr du yn llawn cynnyrch glanhau sy鈥檔 amrywio o dyweli te, cadachau llestri, cadachau, chwistrellwyr, polish, eitemau bychan o ddillad a hyd yn oed cyllyll.听听

Fodd bynnag, nid yn unig y maen nhw鈥檔 ceisio gwerthu eitemau o ansawdd gwael i chi am brisiau chwyddedig iawn, ond maen nhw hefyd yn chwilio am dargedau hawdd ac yn gwerthu manylion i fyrgleriaid proffesiynol. Mae nifer o bobl sydd wedi prynu eitemau gan gnocwyr Nottingham wedi dioddef byrgleriaeth yn eu cartrefi yn fuan wedyn.听听

Yn wreiddiol o ardal Nottingham, byddai鈥檙 grwp hwn yn dod i 鈥榞nocio鈥� ar ddrysau pobl i werthu, a dyna lle ddaw鈥檙 term cnocwyr Nottingham.听听

Bydd Cnocwyr Nottingham yn cyfaddef eu bod yn gyn-droseddwyr.

Bu adroddiadau diweddar ohonynt ar draws ardal Sir y Fflint a Wrecsam ac mewn rhai sefyllfaoedd maent wedi bod yn ymosodol, sydd wedi dychryn ac achosi gofid i berchnogion tai.听 Mae Safonau Masnach yn eich cynghori i edrych drwy鈥檙 ffenestr gyntaf a pheidio agor y drws i unrhyw un nad ydych yn siwr ohonynt.听听

Maent yn dweud bod y dynion hyn yn teithio i ardal mewn faniau neu fysus mini ac yn gweithio mewn timau ar draws cymdogaeth fel arfer.

Byddan nhw鈥檔 cyfaddef eu bod nhw鈥檔 gyn-droseddwyr sy鈥檔 ceisio dechrau o鈥檙 newydd ac efallai鈥檔 dangos cerdyn o鈥檜 cynllun prawf, yn 么l y s么n. Nid oes gan y cardiau adnabod hyn unrhyw draul gyfreithiol.听 Mae鈥檙 dynion ifanc yn delio gydag arian parod ar garreg drws. Os byddwch chi鈥檔 prynu ganddyn nhw unwaith byddant yn dychwelyd eto i geisio gwerthu mwy i chi.

Mewn ardaloedd eraill, maent hyd yn oed wedi bod yn dreisiol ac wedi gorfodi eu ffordd i mewn i gartrefi pobl i gael mwy o arian parod. Ni adroddwyd ar hyn yn ardal Sir y Fflint a Wrecsam hyd yma, ond mae鈥檙 dynion wedi bod yn ymosodol. Eto, cofiwch fod y gwerthwyr hyn yn droseddwyr proffesiynol a鈥檙 ffordd orau i gadw鈥檔 ddiogel yw peidio ymwneud 芒 nhw.听

Os bydd cnocwyr Nottingham yn ymweld 芒 chi, rhowch wybod i Heddlu Gogledd Cymru gynted ag y gallwch drwy ffonio 101 i roi鈥檙 cyfle gorau i鈥檙 heddlu ddod i鈥檆h ardal a dal yr unigolion.听 听Ceisiwch gofnodi unrhyw fanylion, gan gynnwys rhif cofrestru cerbyd.听

Fodd bynnag, os byddant yn eich bygwth neu鈥檔 eich trin yn ymosodol ar garreg y drws, deialwch 999 ar gyfer ymateb i argyfwng.

Os byddwch yn bryderus bod cnocwyr Nottingham wedi cysylltu 芒 chi gallwch hefyd roi gwybod am unrhyw ddigwyddiadau i鈥檙 Gwasanaeth Defnyddwyr Cyngor Ar Bopeth ar 0808 223 1133.

听