Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Llwybrau Diogel Mewn Cymunedau 鈥� Ffordd Neuadd Brychdyn, Brychdyn
Published: 21/12/2018
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn llwyddiannus yn eu cais am arian gan Lywodraeth Cymru i fynd i鈥檙 afael 芒 phryderon ynghylch diogelwch ffordd ar Ffordd Neuadd Brychdyn er budd y gymuned a phlant sy鈥檔 mynychu Ysgol Gynradd Brychdyn.
Yn dilyn y digwyddiad ymgynghori cyhoeddus a gynhaliwyd yn y ganolfan gymunedol fis Gorffennaf, a hysbysebu鈥檙 cynigion yn ffurfiol, bydd gwaith yn cychwyn ar ddydd Llun 14 Ionawr 2019 am gyfnod disgwyliedig o 8 wythnos. Bydd y gweithfeydd yn cynnwys ail wynebu Ffordd Neuadd Broughton, gosod nodweddion gostegu traffig, cyfleusterau croesi wedi鈥檜 gwella a mesurau diogelwch.
Dywedodd y Cynghorydd Carolyn Thomas, Aelod Cabinet ar gyfer Strydwedd a Chefn Gwlad:
"Bydd yr holl waith allweddol o amgylch yr ysgol yn digwydd yn ystod hanner tymor Chwefror, ac yn ystod y tymor ysgol caiff y gwaith ei gyfyngu i鈥檙 oriau rhwng 9.30am a 2.30pm er mwyn tarfu cyn lleied 芒 phosib.
鈥淏ydd y cynllun yn gwella diogelwch a hygyrchedd i blant sy鈥檔 mynychu Ysgol Gynradd Brychdyn a bydd hefyd o fudd ir gymuned leol syn defnyddio gwasanaethau ac adnoddau yn yr ardal hon. Mae gan y cynllun fuddion ehangach hefyd am ei fod yn ffurfio rhan o gynllun ehangach i weithredu darpariaeth beicio rhwng yr Wyddgrug a Brychdyn ac ymlaen i Sandycroft a Saltney."