天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ysgol Uwchradd Cei Connah

Published: 20/12/2018

Croesawodd Ysgol Uwchradd Cei Connah ymwelwyr yn ddiweddar i ddangos ei adeilad newydd wedi鈥檌 gwblhau 鈥� Cam 1 o鈥檙 gwelliannau presennol sy鈥檔 cael eu gwneud yn yr ysgol.

Mae ymwelwyr yn cynnwys Cynghorwyr Sir lleol, Cyngor Tref Cei Connah, Kier Construction, Llywodraeth Cymru a swyddogion Cyngor.

Mae鈥檙 gwaith o adeiladu'r adeilad newydd wedi dechrau yn Awst 2017 ac yn ganolog i gael gwared ar y bloc Dylunio a Thechnoleg bresennol, yn ogystal 芒'r bloc Celf a Thechnoleg Bwyd a chodi adeilad dwy lawr newydd yn cynnwys Dylunio a Thechnoleg, Technoleg Bwyd, Celf a Dylunio ag ystafell ar gyfer darpariaeth dysgu ychwanegol, gofod swyddfa, toiledau, lifft, grisiau ac ystafell cadw offer mecanyddol.

Mae鈥檙 gwaith yn ffurfio rhan o Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif ac Addysg gan Lywodraeth Cymru ac yn dilyn y gwaith a gwblhawyd yn llwyddiannus yng Nghampws Dysgu Treffynnon a Choleg 6ed Dosbarth Glannau Dyfrdwy.听

Bydd Cam 2 yn barhad o鈥檙 prosiect gyda Kier Construction. Bydd y gwaith yn cynnwys gorchudd allanol, to newydd i鈥檙 Neuadd Chwaraeon a dymchwel bloc gweinyddu presennol ac ailwampio llety i roi ardal gweinyddu newydd.听

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint:

"Mae moderneiddio鈥檙 ysgol, a oedd wir ei angen, wedi鈥檌 wneud i safon uchel a bydd yr ysgol rwan yn mwynhau cyfleusterau modern o鈥檙 radd flaenaf a鈥檙 cyfleoedd dysgu gorau posib. Mae鈥檙 Cyngor yn parhau'n ymrwymedig i fuddsoddi yn nyfodol ein plant a phobl ifanc. Rydym yn parhau i weithio i ddarparu addysg cynaliadwy o safon uchel i鈥檔 holl ddysgwyr."

Meddai鈥檙 Pennaeth, Ann Peers:听

"Bydd yr adeilad gwych yn golygu bydd ein hysgol gyda鈥檙 cyfleusterau i ddarparu addysg 21ain ganrif effeithiol ar amser lle mae ei angen fwyaf. Mae pawb yn yr ysgol yn hynod gyffrous i weld y gwaith wedi鈥檌 gwblhau ac yn methu disgwyl i symud i mewn!"

Dywedodd Peter Commins, Rheolwr Gyfarwyddwr Kier Construction Gogledd-Orllewin Lloegr:

"Cwblhau cam un o鈥檙 adeilad addysgol newydd i'r ysgol yw'r garreg filltir gyntaf mewn darparu cyfleusterau addysg o'r safon uchaf i fyfyrwyr a fydd yn eu helpu nhw gyflawni eu potensial llawn. Hoffwn ddiolch i'r ysgol, Cyngor Sir Y Fflint, Llywodraeth Cymru, ein cadwyn gyflenwi a phawb sydd wedi cymryd rhan yn y prosiect hyd yma. Edrychwn ymlaen at gyflawni cam 2 ac felly cwblhau'r gwaith o foderneiddio Ysgol Uwchradd Cei Connah."

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams:

"Rwyf falch iawn o glywed bod Cam 1 o鈥檙 gwaith yn Ysgol Uwchradd Cei Connah wedi鈥檌 gwblhau.

"Mae buddsoddi i greu ysgolion sydd wedi eu dylunio鈥檔 dda, yn ddiogel ac yn effeithlon o ran ynni yn ganolog i Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif ac Addysg, gan sicrhau bod ein hysgolion yn gallu diwallu anghenion ein dysgwyr, athrawon a鈥檙 gymuned ehangach.

"Mae鈥檙 cyfleusterau newydd hyn yn dangos ein hymrwymiad i wella darpariaeth pynciau Dylunio a Thechnoleg, sydd yn rhan allweddol o'r maes dysgu Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn ein cwricwlwm newydd."

Connah's Quay High School Tour 06.jpg

Prif ddisgyblionRobert Bouckley a Phoebe Edwards gyda Phrif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint Colin Everett a'r Cyng Andy Dunbobbin ynghyd 芒'r chwith i'r dde, Cyng Aaron Shotton, Justin Williams - Kier, Ann Peers -听prifathrawes, Andrew Martin -听Llywodraeth Cymru, Cyng Paul Shotton, Paula Vogt - Cyngor Sir y Fflint, Andy Young - Kier, Steven Goodrum - Cyngor Tref Cei Connah, Natalie James-Rutledge -听Llywodraeth Cymru, Cllr Pamela Attridge -听Cyngor Tref Cei Connah a听John Colclough -听dirprwy bennaeth

Connah's Quay High School Tour 08.jpg

听

听

听

听

听

听

听