Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Strategaeth Digartrefedd Rhanbarthol Gogledd Cymru
Published: 14/12/2018
Gofynnir i Gabinet Cyngor Sir y Fflint fabwysiadu Strategaeth Digartrefedd Rhanbarthol Gogledd Cymru a chefnogi camau blaenoriaeth Cynllun Gweithredu Digartrefedd Lleol Sir y Fflint yn y cyfarfod ar 18 Rhagfyr.
Mae Cynghorau Gogledd Cymru wedi datblygu strategaeth ranbarthol a chynllun gweithredu lefel uchel, gyda chynlluniau gweithredu lleol ymhob sir.聽
Amcanion y strategaeth ddigartrefedd yw rhwystro digartrefedd a sicrhau bod llety addas a chefnogaeth ddigonol ar gael i鈥檙 rhai sy鈥檔 ddigartref.
Mae鈥檙 rhanbarth wedi cytuno ar them芒u cyffredin sef Pobl, Cartrefi a Gwasanaethau.
Mae bob awdurdod wedi datblygu eu cynllun gweithredu lleol eu hunain yn seiliedig ar y them芒u o fewn y strategaeth ranbarthol ond sy鈥檔 adlewyrchu鈥檙 blaenoriaethau lleol.聽 Mae鈥檙 cynllun lleol yn Sir y Fflint wedi nodi camau blaenoriaeth er mwyn mynd i鈥檙 afael, ac er mwyn rhwystro digartrefedd yn y sir.
Dywedodd Aelod Cabinet Tai Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Bernie Attridge:
鈥淣od y strategaeth yw mynd i鈥檙 afael ag achosion craidd digartrefedd, o gysgu allan, lleihau鈥檙 niferoedd ar y rhestr aros am dai, lleihau鈥檙 nifer o syrffwyr soffa, ac unrhyw fath arall o ddigartrefedd, gyda鈥檙 nod yn y pen draw o ddod a digartrefedd i ben yng Ngogledd Cymru.
鈥淏ydd ein cynllun gweithredu lleol yn targedu cyllid ar gyfer atal digartrefedd a chefnogi datblygiad y Cynllun Comisiynu Cefnogi Pobl.鈥
Y them芒u cyffredin o fewn y strategaeth a Chynllun Lleol Sir y Fflint yw:
Pobl (digartrefedd ymysg ieuenctid, cysgu allan, anghenion cymhleth a phobl sy'n gadael carchar)
- Rhoi terfyn ar ddigartrefedd ymysg ieuenctid drwy ddatblygu dull amlasiantaeth i rwystro digartrefedd ymysg pobl ifanc; datblygu darpariaeth arbenigol ar gyfer pobl ifanc sy鈥檔 ddigartref.
- Rhwystro cysgu allan drwy gael gwell ddealltwriaeth o'r posibilrwydd ohono yn Sir y Fflint a sefydlu gwell ddealltwriaeth o'r gwasanaethau sydd eu hangen.
- Rheoli anghenion cymhleth drwy nodi鈥檙 heriau a bylchau yn y ddarpariaeth bresennol; darparu gwasanaethau mewn amgylcheddau sy鈥檔 wybodus yn seicolegol.
- Sicrhau llety a chefnogaeth addas ar gyfer pobl sy'n gadael carchar drwy ddull mwy cydlynol ar gyfer pobl sy鈥檔 gadael y ddalfa; ymrwymiad parhaus i鈥檙 Swydd Ailsefydlu Carcharorion a datblygu cytundeb cilyddol ar draws y rhanbarth.
- Cyfrannu tuag at grwp llywio Cyfamod y Lluoedd Arfog a pharhau i werthuso i weld os yw dulliau a pholis茂au tai a digartrefedd yn cefnogi ymrwymiadau o fewn Cyfamod y Lluoedd Arfog
Tai (tai yn gyntaf, mynediad gwell at lety, llety dros dro)
- Datblygu prosiectau peilot er mwyn profi egwyddorion tai yn gyntaf a rhannu arferion gorau ar draws y rhanbarth.
- Gwella鈥檙 mynediad i lety drwy wella mynediad i'r sector rhentu preifat; sicrhau bod tai cymdeithasol newydd yn cyfrannu tuag at ddiwallu鈥檙 galw am dai i bobl ddigartref; datblygu cefnogaeth tenantiaeth i landlordiaid a chyfryngu er mwyn cynnal tenantiaeth
- Archwilio datrysiadau arloesol er mwyn lleihau cost llety dros dro; cyflawni adolygiad o lety dros dro presennol mewn cysylltiad 芒鈥檙 galw.
Gwasanaethau (atal, lliniaru diwygiad y gyfundrefn les, iechyd)聽
- Hyrwyddo gwaith y rhaglen cefnogi pobl a sicrhau bod llwybr o wasanaethau i ddiwallu ystod o anghenion; atal achosion o droi allan o dai cymdeithasol drwy brosiectau cefnogi peilot, gwaith cyn tenantiaeth well ac ymgyrch rhent dwy wythnos yn 2019; ystyried polis茂au rhag troi allan neu wahardd mewn lleoliadau penodol.
- Datblygu dull ar y cyd er mwyn lleihau effaith diwygio'r gyfundrefn les ar hawlwyr o oedran gweithio a gaiff eu heffeithio gan Gredyd Cynhwysol.
- Datblygu perthnasau gweithio agos gyda鈥檙 Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol yn cynnwys protocolau ar gyfer cyllid hyblyg, iechyd meddwl a rhyddhau o鈥檙 ysbyty.