Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cais llwyddiannus am Gyllid Llywodraeth Cymru i Ysgol Glanrafon
Published: 12/12/2018
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi llwyddo i sicrhau cyllid Grant Cyfalaf Cyfrwng Cymraeg i Ysgol Glanrafon yn Yr Wyddgrug.
Mae Llywodraeth Cymru wedi clustnodi鈥檙 prosiect fel un sy鈥檔 debygol o helpu gyda鈥檌 darged o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.听 Bydd y cyllid ar gael yn dilyn cwblhau cynigion statudol a phroses ymgynghori ffurfiol.
Mae鈥檙 cyllid yn cynnwys 拢1,980,000 ar gyfer ailfodelu ac ymestyn Ysgol Glanrafon er mwyn cynyddu ei faint, yn ogystal 芒 拢1,070,000 pellach o gynnig Gofal Plant y Rhaglen Grant Cyfalaf i gynnig darpariaeth cyn ysgol bwrpasol newydd ar safle鈥檙 ysgol, a thrwy hynny gyd-leoli darpariaeth y blynyddoedd cynnar a hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg.
Dathlwyd y cyhoeddiad hwn yn ddiweddar yn yr ysgol gan aelodau a swyddogion Cyngor Sir y Fflint, ynghyd 芒 chynrychiolwyr Llywodraeth Cymru, Meithrin Cymru a Tute Education.听 Bu iddynt fwynhau gwrando ar y disgyblion yn canu a chawsant gyfle i gyfarfod rhai o blant y Cylch.
Meddai鈥檙 Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint:
鈥淏ydd y cyllid hwn yn ategu buddsoddiadau cyfalaf sy鈥檔 hwyluso twf mewn addysg cyfrwng Cymraeg a鈥檙 defnydd o鈥檙 iaith Gymraeg. Mae鈥檙 cyllid wedi鈥檌 anelu鈥檔 benodol at prosiectau fydd yn cyfrannu i gwrdd 芒 nod Llywodraeth Cymru o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.听 Mae鈥檙 rhain yn cynnwys cynnig darpariaeth cyfrwng Cymraeg ychwanegol a chynnig darpariaeth gofal plant neu feithrinfa drwy gyfrwng y Gymraeg.鈥
Meddai Miss Llinos Mary Jones, prifathrawes Ysgol Glanrafon:
"Fel ysgol, rydym yn hapus iawn gyda'r newyddion bod ein darpariaeth yn cael ei ehangu i ateb y galw ar gyfer ein niferoedd cynyddol. Rydym yn gynhyrfus iawn ac yn edrych ymlaen at ddyfodol llewyrchus i addysg Gymraeg yn yr ardal."
Mae鈥檙 prosiect yn ceisio cael gwared ar y llety symudol presennol sydd ar safle鈥檙 ysgol a chodi adeiladau parhaol ar gyfer ystafelloedd dosbarth yn eu lle, er mwyn cynyddu'r nifer parhaol o ddisgyblion y gall yr adeilad ei ddal i ddarparu ar gyfer y galw am leoedd.听 Mae鈥檙 prosiect hefyd yn gobeithio addasu'r maes parcio presennol a darparu parth gollwng pwrpasol ar y safle, er mwyn gwella rheolaeth traffig a diogelwch.听
Bydd y prosiect hefyd yn cynnig darpariaeth cyn ysgol bwrpasol newydd ar y safle, fydd yn denu ac yn gwella鈥檙 nifer o ddisgyblion sy鈥檔 dod i gymuned yr ysgol drwy bontio naturiol o鈥檙 grwp Ti a Fi a鈥檙 Cylch i ddarpariaeth Cyfnod Sylfaen statudol.听 Mae gan Ysgol Glanrafon enw da am ddarparu addysg cyfrwng Cymraeg yn yr ardal, ac adlewyrchir hyn yn ei phoblogrwydd a niferoedd y disgyblion, ond nid oes ganddi鈥檙 ystod llawn o ddarpariaeth Blynyddoedd Cynnar cyfrwng Cymraeg y mae rhieni yn ei geisio.听
Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams:
鈥淢ae'r Grant Cyfalaf Cyfrwng Cymraeg hwn yn rhan o鈥檔 rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif; y rhaglen adeiladu ysgolion mwyaf uchelgeisiol ers y 1960au. Ar y cyfan, rydym yn buddsoddi 拢1.4bn i ddarparu鈥檙 amgylchedd dysgu y mae ein plant a鈥檔 pobl ifanc yn ei haeddu, er mwyn eu galluogi i gyrraedd eu llawn botensial. Nid yn unig y bydd y cyllid hwn yn darparu hyn i ddisgyblion Ysgol Glanrafon, ond bydd hefyd yn cynnig darpariaeth cyfrwng Cymraeg ychwanegol, fydd yn ein helpu i gyrraedd ein targedau ar gyfer y Gymraeg.鈥
Ychwanegodd y Cynghorydd Roberts:
鈥淏ydd y prosiect yn sicrhau y gall y gymuned ddefnyddio鈥檙 ysgol i ddarparu gweithgareddau cyfrwng Cymraeg megis sgiliau Cymraeg i oedolion. Er mwyn gwneud y defnydd mwyaf posib o鈥檙 safle y tu allan i dymor yr ysgol, bydd Clwb Gwyliau Cymraeg hefyd yn cael ei sefydlu ar y safle.
鈥淏ydd buddsoddi mewn ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg bresennol yn ein galluogi i gynyddu nifer y lleoedd yn yr yst芒d ysgolion cyfrwng Cymraeg, ac felly鈥檔 cyfrannu鈥檔 uniongyrchol i鈥檙 uchelgais o gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg rhugl yn yr ardal.鈥
听
听听

听
听
听
听
听
听
听