Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Mwy o lwyddiant yn Adeiladu Dyfodol
Published: 11/12/2018
Mae Cyngor Sir y Fflint a鈥檌 bartner, Wates Residential North, yn dathlu llwyddiant y drydedd raglen 鈥淎deiladu Dyfodol鈥 sydd wedi鈥檌 rhedeg yn y sir.
Mae鈥檙 cwrs hyfforddi pythefnos dwys hwn wedi gweld pobl leol yn cael swyddi mewn labro, gwaith tir a gosod ffenestri, neu brentisiaethau mewn meysydd amrywiol, yn cynnwys gosod brics a gwaith trydanol.
Cafodd ymgeiswyr eu recriwtio drwy raglen Cymunedau dros Waith a Mwy Sir y Fflint sy鈥檔 gweithio gyda phobl sy鈥檔 wynebu鈥檙 rhwystrau mwyaf i gael eu cyflogi.听
Mae鈥檙 rhaglen hyfforddi yn cynnwys sesiynau sgiliau crefftau adeiladu, gan gynnwys gwaith coed a chynnal a chadw yn ogystal 芒 gweithdai ysgrifennu CV a chyfweliadau gyda Wates Residential a鈥檜 partneriaid cadwyn gyflenwi. Derbyniodd pob ymgeisydd dystysgrif mewn seremoni wobrwyo ar ddiwedd y cwrs pythefnos.
Mae darparu Adeiladu Dyfodol yn rhan o swyddogaeth Wates Residential North fel datblygwr arweiniol ar gyfer Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP) y Cyngor, a fydd yn gweld 500 o gartrefi newydd yn cael eu creu ledled Sir y Fflint dros y pum mlynedd nesaf.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet Tai a Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir y Fflint:
鈥淢ae Cyngor Sir y Fflint yn hwyluso mwy o brentisiaethau newydd yn y sir, yn arbennig ym maes adeiladu.听 Da iawn i bob un ohonoch am gymryd y cam cyntaf a chwblhau鈥檙 rhaglen hon.听 Rydych i gyd wedi bod yn bresennol bob dydd ac wedi cyflawni cymwysterau defnyddiol.听 Mae angen pobl fel chi arnom ac mae llawer o gyfleoedd ar gael i chi ddatblygu鈥檙 hyn yr ydych wedi鈥檌 gyflawni hyd yma.鈥澨
Dywedodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Eluned Morgan:听
鈥淩ydw i eisiau i bawb, waeth beth yw eu cefndir, i gael y cyfle i gyfrannu at ein cymdeithas. Er ei fod yn galonogol iawn gweld y cynnydd diweddar mewn cyflogaeth yng Nghymru, mae鈥檙 anweithgarwch economaidd yn dal yn broblem.听
鈥淢ae rhaglenni fel Cymunedau am Waith a Mwy yn dangos ein hymrwymiad i fynd i'r afael 芒 hyn drwy ymgysylltu 芒 phobl yn ein hardaloedd mwyaf difreintiedig, i ddarparu cyfleoedd hyfforddi a chymorth cyflogaeth i'r rhai hynny sydd ei angen fwyaf. Mae鈥檙 rhaglen hon eisoes wedi helpu dros 1,000 o bobl i gyflogaeth ers ei lansiad yn Ebrill eleni. Erbyn 2020, bydd wedi cael cyfanswm o 拢24m o gefnogaeth, i adeiladu ar y llwyddiant hwn.鈥
Achredwyd gan y Fframwaith Cymwysterau a Chredydau (QCF). Mae Adeiladu Dyfodol yn rhoi cymhwyster FfCCh Lefel 1 mewn Crefftau Adeiladu a chofrestriad CSCS i ymgeiswyr i鈥檞 helpu i sicrhau hyfforddiant a phrofiad gwaith ar safleoedd adeiladu yn y dyfodol.听

Myfyrwyr: Luke Hollinrake,听Thomas Eyes, Georgia Jones,听Sean Mason, Dylan O鈥橲haughnessy,听Leon Jones,听Jason Pugh,听Kim Lewis, Callum Draper
听

Myfyrwyr gyda听Colin Morris听- Llywodraeth Cymru, Dean Dillon a Mick Cunningham - Wates, Andrew Farrow - Cyngor Sir y Fflint, Alys Hale -听Adran Gwaith听a Phensiynau听a Cyng Bernie Attridge
听
听
听
听
听
听
听