天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Y diweddaraf ynglyn â Metro Gogledd Ddwyrain Cymru

Published: 06/12/2018

Bydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu鈥檙 Amgylchedd Cyngor Sir y Fflint yn cael gwybod beth yw鈥檙 diweddaraf o ran gwaith Cyngor Sir y Fflint a Llywodraeth Cymru ar brosiect Metro Gogledd Ddwyrain Cymru yn eu cyfarfod yr wythnos nesaf.聽

Mae鈥檙 Metro yn ffurfio rhan o Strategaeth Gludiant Integredig ehangach y Cyngor sydd wedi ei gynllunio i ddarparu gwasanaeth cludiant sy鈥檔 gynaliadwy, fforddiadwy ac amgylcheddol gyfeillgar i'r holl ardaloedd yn y Sir.聽

Mae Sir y Fflint wedi bod yn llwyddiannus gyda chynnig diweddar am arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer prosiectau Metro amrywiol a fydd, yn gyntaf, yn gwella mynediad i safleoedd cyflogaeth yng Nglannau Dyfrdwy o weddill Sir y Fflint.

Mae鈥檙 cyllid dros gyfnod treigl o dair blynedd (2019 鈥� 2021) a bydd yn galluogi cyflawni鈥檙 cynlluniau canlynol:

  1. B5129 Cylchfan Queensferry i Ffin Sir Ddinbych 鈥� gan gysylltu tair prif elfen a fydd yn amlygu Coridor Teithio o Ansawdd ar hyd y B5129 rhwng Queensferry a Ffin Sir Ddinbych.
  2. Gosod signalau ar Gylchfan Parkway 鈥� Parth 2 Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy. Bydd hyn yn darparu rheolaeth uniongyrchol ar draffig sy鈥檔 gadael Parkway heb effeithio鈥檔 ormodol ar y llif traffig i gyfeiriad y dwyrain. Bydd y gwelliannau arfaethedig yn lleihau tagfeydd, yn gwella amseroedd teithio a hygyrchedd i gyfleoedd cyflogaeth, tra hefyd yn mynd i'r afael 芒'r broblem o ddamweiniau a brofwyd yn y lleoliad hwn.
  3. Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy 鈥� Cwblhau Llwybrau Teithio Llesol a Seilwaith Arosfannau Bws (Parth 2) a fydd yn darparu mynediad tua鈥檙 de i鈥檙 Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol drwy'r cysylltiad Bws / Beicio yn unig presennol i Barth 3.
  4. A5104 Llwybr Beicio Brychdyn i Saltney Cam 2 - llwybr cerdded / beicio 1.5km arfaethedig a rennir, wedi ei leoli ar hyd ochr ddwyreiniol yr A5104 rhwng Brychdyn a Saltney a fydd yn cysylltu cymunedau fel Saltney, Saltney Ferry, Bretton a Brychdyn gyda Chaer a phrif safleoedd cyflogaeth. Fe fydd buddion ar gyfer mynediad i gludiant ar hyd y llwybr ar gyfer cymunedau yn rhan orllewinol y Sir.

Dywedodd Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas:

"Mae prosiect y Metro yn hynod o gyffrous ar gyfer y Sir ac mae'n wych ei weld yn datblygu, gyda鈥檙 Llwybrau Teithio Llesol ym Mharth 3 Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy wedi eu cwblhau fis Medi eleni. Caiff cyllid Llywodraeth Cymru ei groesawu ac mae鈥檔 dangos beth ellir ei gyflawni pan fo鈥檙 Cyngor yn gweithio鈥檔 agos gyda Llywodraeth Cymru a busnesau lleol i ddod o hyd i ddatrysiadau a fydd yn cynorthwyo datblygiad hir dymor yr ardal gyfan ac yn gwarchod swyddi鈥檙 bobl sy'n gweithio yno."