天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Y Cyngor a phartneriaid yn nodi carreg filltir sylweddol yn eu prosiect, Hwb Cyfle

Published: 30/11/2018

Mae鈥檙 Ganolfan Ddydd Newydd i Oedolion, 鈥楬wb Cyfle鈥 yn prysur ddatblygu.

Cynhaliodd swyddogion ac aelodau o Gyngor Sir y Fflint, ynghyd 芒 chynrychiolwyr o'u sefydliadau partner, seremoni llofnodi鈥檙 dur ar y safle yn ddiweddar i nodi鈥檙 garreg filltir arbennig hon o adeiladu Canolfan Ddydd a Chyfleoedd Gwaith newydd sy鈥檔 werth 拢4 miliwn.

Bydd y ganolfan newydd yn darparu canolfan gofal dydd unllawr i oedolion sy鈥檔 arbenigo mewn cyfleusterau dydd cymunedol a gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion diamddiffyn gydag ystod o anableddau dysgu. Bydd yn disodli鈥檙 cyfleuster presennol sy鈥檔 prysur heneiddio ger y safle newydd a bydd y gwaith hefyd yn cynnwys maes parcio, man gollwng a gardd wedi'i hamg谩u.

Mae Sir y Fflint wedi arwain y ffordd gyda phob partner allweddol i ddatblygu鈥檙 ganolfan hon sy鈥檔 anelu i integreiddio iechyd, gofal cymdeithasol a鈥檙 trydydd sector yn well, i helpu pobl sydd ag anableddau dysgu i fyw yn fwy annibynnol yn eu cartref.

Kier sy鈥檔 cyflawni鈥檙 prosiect hwn a chaiff ei ddarparu drwy fframwaith Gwaith M芒n Cenedlaethol Scape. Mae鈥檔 arbennig o bwysig i Kier oherwydd mae'n nodi'r 1000fed prosiect sydd wedi cael ei ddyfarnu drwy'r fframwaith.

Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint:

鈥淢ae鈥檙 Cyngor, ynghyd 芒'n partneriaid, yn gweithio'n galed i drawsnewid gwasanaethau i bobl sydd ag anabledd dysgu. Mae Cyngor Sir y Fflint wedi buddsoddi yn nyfodol y gwasanaeth allweddol hwn ac wedi galluogi cyfleusterau o鈥檙 radd flaenaf i ddod i fodolaeth.

鈥淓r bod y Cyngor yn wynebu pwysau ariannol ar hyn o bryd, rydym yn parhau i fuddsoddi mewn prosiectau cyfalaf allweddol sy鈥檔 cefnogi gwasanaethau hanfodol. Mae ein buddsoddiad gwerth 拢4miliwn yn Sir y Fflint ar gyfer adeiladu cyfleuster newydd i ddarparu gwasanaethau dydd ar gyfer pobl sydd ag anableddau dysgu yn profi ein hymrwymiad.Bydd yr adeilad newydd yn fodern iawn, a chafodd ei ddylunio gyda mewnbwn defnyddwyr gwasanaeth, eu teuluoedd, a鈥檔 staff.

Dywedodd Michael Edwards, cyfarwyddwr Fframweithiau a Chynghreiriau Strategol Kier:

鈥淩ydym yn falch iawn o fod wedi dechrau ein 1000fed prosiect o fewn fframwaith Gwaith M芒n Cenedlaethol Scape. Trwy鈥檙 fframwaith, rydym wedi cwblhau cannoedd o brosiectau hanfodol ar gyfer cymunedau lleol, gan gynnwys ysgolion, ysbytai a neuaddau tref.

鈥淩ydym yn edrych ymlaen at gwblhau鈥檙 prosiect hwn a fydd yn darparu cyfleusterau gofal iechyd hanfodol i oedolion sydd ag anableddau dysgu yn y gymuned.鈥

Mae Kier wedi bod ar y safle ers mis Awst, a disgwylir i鈥檙 prosiect gael ei gwblhau yn ystod gwanwyn 2019. Mae Kier wedi ymrwymo i sicrhau y bydd y gymuned leol yn manteisio o鈥檙 adeilad. Bydd yn cyfrannu tuag at y Ffair Nadolig gyntaf a gaiff ei chynnal yn y ganolfan ddydd ar gyfer ei atyniad ceirw byw, ac mae wedi trefnu i 12 o fyfyrwyr Hyfforddiaeth Coleg Cambria helpu i wella鈥檙 ardal y tu allan i鈥檙 ganolfan.

Dywedodd Victoria Brambini, Rheolwr Gyfarwyddwr, Scape Procure:

鈥淢ae ein fframwaith Gwaith M芒n wedi cyflawni prosiectau llwyddiannus yn gyson, ac mae gwerth cymdeithasol yn sail bwysig iddynt. Rwyf yn falch iawn mai dyma鈥檙 1000fed prosiect y mae Kier wedi鈥檌 ddarparu drwy ffyrdd caffael Scape a鈥檌 fod yn parhau i reu gwerth gwirioneddol, gan adael etifeddiaeth gadarnhaol i ardal Queensferry."

Glanrafon 02.jpg

Cyng Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol, Queensferry Cyng David Wisinger, Prif Weithredwr Colin Everett, Michael Jones - T卯m Comisiynu Gwasanaethau Cymdeithasol, Andrew Topliss - Peiriannydd Dylunio Trydanol, Neil Ayling - Prif Swyddog Gwasanaethau Cymdeithasol ac Ian Edwards - Dyluniad Adeilad Arweinydd T卯m

Glanrafon 01.jpg

Defnyddiwr canolfan ddydd John Lamb, Dylan Wyn Jones - SCAPE Procure Cyf, Neil Ayling Cyngor Sir y Fflint, Rachel Greenwood a Richard Robinson - Kier

Glanrafon 03.jpgCyngor Sir y Fflint, Kier, Scape Procure a defnyddwyr y ganolfan ddydd ar ddechrau'r adeilad newydd yn agos at y strwythur a lofnodwyd

Glanrafon 04.jpgCyngor Sir y Fflint, Kier, Scape Procure a defnyddwyr y ganolfan ddydd gyda chacen dathliadol i nodi'r achlysur