Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cefnogwch #CefnogiGalw
Published: 20/11/2018
Mae Cyngor Sir y Fflint yn galw ar i breswylwyr, busnesau a sefydliadau lleol gefnogi ein hymgyrch #CefnogiGalw.
Mae鈥檙 ymgyrch, a fydd yn cael ei lansio yng nghyfarfod y Cyngor ar ddydd Mawrth 20 Tachwedd, yn pwyso am gyllid teg i lywodraeth leol ac i Sir Y Fflint. Nid yw鈥檙 ymgyrch yn un gan blaid wleidyddol, a gall unrhyw sy鈥檔 poeni am lywodraeth leol a gwasanaethau lleol ei gefnogi.
Bob blwyddyn mae cynghorau鈥檔 gorfod gosod cyllideb sy鈥檔 taro cydbwysedd rhwng eu hadnoddau a鈥檜 hanghenion gwario.听 Mae Sir y Fflint, fel pob Cyngor arall, wedi cael llai o gyllid gan y Llywodraethau o un flwyddyn i'r llall am ddegawd.听 Mae Sir y Fflint, fel un o鈥檙 cynghorau sy鈥檔 derbyn y lleiaf o gyllid am bob pen y boblogaeth yng Nghymru, yn benodol agored i effeithiau llymder.
Nid yw sefyllfa gyfredol y gyllideb genedlaethol yn gynaliadwy. Mae Gwasanaethau lleol o dan fygythiad parhaus. Trwy gyfuniad o fod yn arloesol, gwneud y gorau o adnoddau a derbyn cefnogaeth wych gan ein cymunedau wrth ddygymod 芒 newid a chymryd mwy o gyfrifoldeb dros ddarparu gwasanaethau ar eu cyfer ei hunain, rydym ni yn Sir y Fflint wedi llwyddo i ddod drwyddi. Ond gallai 2019/20 fod y flwyddyn y mae鈥檙 her i鈥檙 gyllideb yn syml iawn, yn un rhy fawr i ni i gyd.
Rydym yn wynebu toriadau pellach i鈥檔 grant Llywodraeth Cymru a does dim amddiffyniad yn erbyn costau chwyddiant, gwobrau cyflogau cenedlaethol a'r gofynion cynyddol am wasanaethau megis gofal cymdeithasol. Rydym yn wynebu bwlch cyllidol o dros 拢15m yn 2019/20. 听
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint:
听鈥淵nghyd ag awdurdodau lleol eraill yng Nghymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, rydym yn galw am i Lywodraeth Cymru gydnabod yn llawn bwysigrwydd y gwasanaethau y mae cynghorau yn eu cyflenwi 鈥 megis addysg a gofal cymdeithasol. Mae鈥檙 rhain yn wasanaethau a ddylai fod wrth galon blaenoriaethau鈥檙 Llywodraeth. Oni bai am ymyrraeth ariannol gan Lywodraeth Cymru, yr unig opsiynau sy鈥檔 weddill i gydbwyso鈥檙 gyllideb yw Treth y Cyngor a throi at arian sydd wrth gefn,听nid oes yr un ohonynt yn opsiynau cynaliadwy.听
听鈥淥s ydych yn听#CefnogiGalw,听byddwch yn helpu eich cyngor i sicrhau ei gyfran deg o arian y wlad tra听ar yr un pryd yn help i warchod ein hysgolion a鈥檔 gwasanaethau gofal rhag caledi parhaol.鈥澨
Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint, Colin Everett:
听鈥淩ydym wedi llwyddo i ddod o hyd i 拢8.5M o ddatrysiadau cyllid pellach 鈥 os ydym yn cynnwys y cynnydd arfaethedig o 4.5% mewn Treth Cyngor 鈥 ond mae dal angen 拢6.7M arall arnom.听 Rydym yn gofyn i Lywodraeth Cymru #CefnogiGalw am 拢5.6m yn fwy o gyllid i Sir y Fflint.听 Os ydynt yn cytuno, yna gallwn warchod gwasanaethau lleol a chadw鈥檙 cynnydd Treth Cyngor i lawr.鈥
Byddwch yn rhan o鈥檙 ymgyrch 鈥 dyma sut:
- Ymwelwch 芒 gwefan y Cyngor 听 鈥 er mwyn canfod mwy o wybodaeth am y modd y mae lleihau cyllidebau yn effeithio ar wasanaethau lleol.
- Dangoswch eich cefnogaeth tuag at #CefnogiGalw trwy e-bostio neu ysgrifennu at eich Aelodau Cynulliad ac Aelodau Seneddol lleol yn gofyn am ariannu tecach i'r holl gynghorau.
- Gadewch negeseuon cefnogol trwy fynd i
- Dilynwch ein hymgyrch ar ein cyfrif Twitter - @CSyFflint