天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Menter newydd y Cyngor i reoli'r gwerthiant o nwyddau ffug o fewn grwpiau cyfryngau cymdeithasol lleol

Published: 09/11/2018

Mae Gwasanaeth Safonau Masnach Cyngor Sir y Fflint yn lansio menter newydd i amddiffyn prynwyr lleol a busnesau bach rhag y niwed a achosir gan y twf mewn masnachu nwyddau ffug ymysg grwpiau prynu a gwerthu ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mae鈥檙 Cyngor wedi mabwysiadu rhaglen Gwir Gynnyrch ar-lein, menter genedlaethol sy鈥檔 sicrhau nad yw grwpiau prynu a gwerthu ar y cyfryngau cymdeithasol yn hyrwyddo鈥檙 gwerthiant o nwyddau ffug a chynnyrch anghyfreithiol eraill, ac yn annog perthnasau gweithio agosach rhwng y grwpiau a鈥檜 gwasanaeth Safonau Masnach lleol.

Yn ystod cyfnod cyn y Nadolig, bydd Swyddogion Safonau Masnach yn nodi holl grwpiau prynu a gwerthu yn ardal sir y Fflint sy鈥檔 gweithredu ar y cyfryngau cymdeithasol. Byddent yn cysylltu 芒 gweinyddwyr y grwpiau i鈥檞 gwneud yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau cyfreithiol a鈥檜 gwahodd i ddilyn Cod Ymarfer Gwir Gynnyrch Ar-lein.

Mae鈥檙 Cod Ymarfer yn gofyn i weinyddwyr y grwp groesawu Swyddogion Safonau Masnach fel aelodau o鈥檙 grwp a chytuno i bum cam syml:

1. Gwahardd y gwerthiant o nwyddau ffug neu anghyfreithiol;

2. Gweithredu ar wybodaeth gan berchnogion Hawl Eiddo Deallusol a鈥檜 cynrychiolwyr sy鈥檔 amlygu鈥檙 gwerthiant o nwyddau anghyfreithiol.

3. Hysbysu Safonau Masnach os credent fod nwyddau anghyfreithiol yn cael eu gwerthu o fewn y grwp a gwahardd gwerthwyr y nwyddau hyn;

4. Amlygu rhybuddion a hysbysiadau cynghori a gyhoeddir gan Safonau Masnach;

5. Sicrhau fod holl aelodau鈥檙 grwp yn ymwybodol o鈥檙 polisi ymwrthod 芒 nwyddau ffug.

Bydd y grwpiau gwerthu sy鈥檔 cytuno i ddilyn Cod Ymarfer Gwir Gynnyrch, yn cael arddangos logo Gwir Gynnyrch鈩 a fydd yn gweithredu fel sicrwydd gweledol i siopwyr a masnachwyr ei fod yn ardal siopa sy鈥檔 ymwrthod 芒 nwyddau ffug.

Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Sir y Fflint dros Gynllunio, yr Amgylchedd a鈥檙 Economi:

鈥淢ae hwn yn fenter bwysig, mae鈥檔 rhoi sicrwydd i bobl nad ydynt yn prynu nwyddau ffug nad ydynt yn ddiogel.聽 Os oes unrhyw un yn credu bod rhywun yn darparu nwyddau ffug, dylent adrodd y manylion i'r gwasanaeth Safonau Masnach.鈥

Mae鈥檙 fenter newydd yn estyniad naturiol i鈥檙 ymgyrch Gwir Gynnyrch sydd mewn grym mewn marchnadoedd a ffeiriau cist car ers bron i ddeng mlynedd ac sydd wedi gweld oddeutu 500 ar draws y DU yn cofrestru'n wirfoddol ar gyfer y Siarter Gwir Gynnyrch er mwyn atal y gwerthiant o nwyddau ffug.聽

Cyflwynodd Cyngor Sir y Fflint y Siarter Gwir Gynnyrch mewn marchnadoedd lleol a ffeiriau cist car, ac mae Safonau Masnach wedi bod yn hapus iawn gyda鈥檌 effaith i leihau'r nifer o eitemau ffug sydd ar werth, ac felly wedi penderfynu ei ymestyn i'r cyfryngau cymdeithasol.聽