Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
鈥楢r y Blaen gyda鈥檙 Blaendraeth! - celf gyhoeddus newydd wedi鈥檌 ysbrydoli gan y gymuned i helpu llunio dyfodol newydd i safle hanesyddol鈥
Published: 09/11/2018
I ganlyn gwaith a wnaed yn Ionawr a Mawrth 2018 gyda chymuned y Fflint i archwilio, trafod ac edrych ar eu dyheadau ar gyfer y blaendraeth, mae dau gomisiwn unigryw yn cael eu gweithredu i helpu trawsnewid y lleoliad ar lan y dwr unigryw hwn.聽聽
Mae Rheolwyr curadurol y Prosiect, Addo a Chyngor Sir y Fflint mewn partneriaeth 芒 Cadw yn gwahodd ceisiadau gan artistiaid profiadol i greu gwaith celf sy鈥檔 ysbrydoli i gael ei gosod ar Flaendraeth y Fflint, yn ogystal 芒 Llwybr Celf yn cysylltu鈥檙 ardal 芒'r dref fel rhan o raglen adfywio ehangach. Bydd y gwaith celf yn helpu i adeiladu ar brosiect adfywio ehangach sydd yn edrych i ddatblygu canolbwynt cymunedol newydd sy鈥檔 fodern ac arloesol ger safle鈥檙 castell.
Meddai Tracy Simpson o Addo:
鈥淩ydym yn edrych ymlaen at weithio ar y prosiect cyffrous hwn gyda phartneriaid a chyhoedd y Fflint. Dyma gyfle gwych i benodi artistiaid ar gyfer y ddau gomisiwn a fydd yn creu gwaith celf arloesol a meddylgar gan wella edrychiad Blaendraeth a thref y Fflint.鈥
Bydd y prif ddarn o waith celf gyda pherthynas symbiotig 芒鈥檙 castell ac yn ennyn trafodaeth ac yn gwbl arwyddocaol i bobl leol yn ogystal ag ymwelwyr. Bydd y llwybr o waith celf yn defnyddio syniadau creadigol er mwyn atynnu a gwahodd pobl i'r cyswllt pwysig rhwng y dref a'r blaendraeth.
Mae鈥檙 comisiynau hefyd wedi tynnu sylw at y ffaith fod angen i鈥檙 rheiny fydd yn gwneud cais yn gallu arddangos y parodrwydd i drochi eu hunain ym mywyd a diwylliant yr ardal gan elwa ar y cyfle i weithio gyda grwpiau, cymunedau a busnesau lleol yn ogystal 芒'r t卯m prosiect adfywio ehangach.聽
Meddai鈥檙 Cynghorydd Ian Roberts, Cynghorydd Sir sy鈥檔 cynrychioli Ward Castell y Fflint ac Aelod Cabinet dros Addysg ac Ieuenctid:
鈥淭rwy鈥檙 ymgynghori hynod fanwl sydd wedi mynd ymlaen yn ystod y prosiect ymchwil a datblygu yn ddiweddar mae鈥檔 amlwg fod yna archwaeth go iawn gan bobl y Fflint am ddatblygiad arloesol ar y Blaendraeth sy鈥檔 ffordd o ddod 芒 phobl o鈥檙 Castell i鈥檙 dref - dyma ddatblygiad cyffrous arall a fydd yn cyflwyno ystod o fanteision.鈥
Am ragor o wybodaeth am y comisiwn Celf Cyhoeddus a鈥檙 comisiwn Llwybr Celf cysylltwch 芒 Gwenno Eleri Jones gwenno.e.jones@flintshire.gov.uk neu Tracy Simpson tracy@addocreative.com.
I wneud cais am un ai鈥檙 comisiwn Celf Cyhoeddus neu'r comisiwn Llwybr Celf ewch i wefan Gwerthwchigymru https://www.sell2wales.gov.wales/ a'r dyddiad cau ar gyfer y ddau gomisiwn yw 6 Rhagfyr 2018.