天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Hen Ganolfan Melrose, Shotton

Published: 16/11/2018

Melrose Press pic 01.jpgYn rhan o Raglen Strategol Tai ac Adfywio鈥檙 Cyngor (SHARP), bydd tenantiaid ar hyn yn symud i鈥檙 datblygiad tai cyngor newydd sbon ar safle hen Ganolfan Adnoddau Melrose, oddi ar Central Drive yn Shotton.

Bydd y cynllun newydd yn cynnwys 9 cartref, gan ddarparu cyfuniad o dai a fflatiau.

Dechreuodd Rhaglen Strategol Tai ac Adfywio (SHARP) bum mlynedd o hyd y Cyngor yn haf 2015 mewn partneriaeth 芒 Wates Residential North ac mae hyd yma wedi arwain at gwblhau cynlluniau鈥檔 llwyddiannus ar draws y sir, gan ddarparu 91 o dai cyngor newydd a 62 o gartrefi fforddiadwy yn yr Hen Hufenfa, Llys Custom House a Llys St Mark yng Nghei Connah, Llys Alexandra yn yr Wyddgrug, Maes y Meillion a Heol y Goron yng Nghoed-llai a The Walks yn y Fflint, a鈥檙 un diweddaraf ar safle hen Ganolfan Melrose.

Mae gwaith datblygu safle newydd ar gyfer tai cyngor a thai fforddiadwy hefyd ar fynd yn Llys Dewi, Penyffordd (Treffynnon) ac mae gwaith wedi cychwyn ar safle Maes Gwern yn yr Wyddgrug. Yn y Flwyddyn Newydd, bydd gwaith yn cychwyn ar ddau safle arall, sef hen Ddepo鈥檙 Cyngor, Dobshill a Nant y Gro, Gronant.

Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint:

鈥淏ydd y datblygiad newydd yn Shotton yn dod 芒 chyfanswm y tai cyngor a'r tai fforddiadwy sydd wedi'u cwblhau mewn partneriaeth 芒 Wates Residential North i 153. Fel sy鈥檔 wir am ddatblygiadau eraill, mae鈥檙 cynllun newydd yma wedi dod 芒 bywyd newydd i gymunedau yn y trefi ac yng nghefn gwlad a bydd yn cyfrannu at eu gwneud nhw'n gynaliadwy ac yn darparu cyfleoedd am waith.

鈥淩ydyn ni鈥檔 benderfynol o ateb y galw am dai cymdeithasol yn Sir y Fflint a byddwn yn parhau i bwyso ar Lywodraeth Cymru i gynyddu cap benthyca'r Cyngor er mwyn i ni allu adeiladu mwy ar gyfer anghenion pobl leol."

Dywedodd Aelod Cabinet Tai Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Bernie Attridge:

鈥淢ae angen mawr yn dal i fod am dai cyngor gyda rhent fforddiadwy, ac wrth i鈥檙 galw am dai fforddiadwy a chymdeithasol barhau i gynyddu yn ein cymunedau, rydyn ni鈥檔 benderfynol o ddarparu tai cymdeithasol o鈥檙 radd flaenaf i bobl.

鈥淓to, rydw i鈥檔 falch iawn o weld cynllun newydd arall yn cael ei gyflawni drwy SHARP er budd y gymuned leol. Mae pob un o鈥檙 cynlluniau yma鈥檔 darparu tai o safon ac maen nhw'n gymorth i nifer o deuluoedd sydd ar y gofrestr dai ar hyn o bryd."

Dywedodd y Cynghorydd Ron Davies, aelod lleol Shotton Uchaf:

鈥淩ydw i鈥檔 hapus iawn bod y tai cyngor yma'n cael eu darparu yn Shotton 鈥 mae angen mawr amdanyn nhw.Roedd hen safle鈥檙 Ganolfan Adnoddau wedi cael ei adael ond mae'r datblygiad hwn i'w groesawu a bydd, heb os, yn hwb mawr ac yn helpu'r gymuned leol i ffynnu."

Dywedodd Richard Shroll, Rheolwr Gyfarwyddwr Wates Residential North:

鈥淔el sy鈥檔 wir am bob un o'n datblygiadau newydd, y darn gorau i鈥檔 timau ni ydi gweld pobl leol yn symud i鈥檞 cartrefi newydd sbon. Ers y diwrnod cyntaf i ni weithio mewn partneriaeth gyda Chyngor Sir y Fflint, rydyn ni wedi canolbwyntio adeiladu tai o safon i helpu i adfywio'r sir. Rydyn ni鈥檔 edrych ymlaen yn fawr at ychwanegu at yr hyn rydyn ni wedi鈥檌 gyflawni hyd yma wrth i鈥檔 gwaith yn Nhreffynnon a鈥檙 Wyddgrug ddod yn ei flaen.鈥

Yn y llun ynghlwm mae (o鈥檙 chwith i'r dde):

Y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet Tai, y Cynghorydd Ron Davies, aelod lleol Shotton Uchaf, Neal Cockerton, Prif Swyddog Tai ac Asedau, Dawn Kent, Uwch Swyddog Tai a Mick Cunningham, Wates Residential North