Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Wythnos Diogelu Cenedlaethol 2018
Published: 05/11/2018
鈥楳ae diogelu yn fusnes i bawb鈥 ydir brif neges i bob un o breswylwyr Cymru wrth i Fyrddau Diogelu ledled Cymru, mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru a鈥檙 Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol, baratoi i lansio Wythnos Diogelu Cenedlaethol.
Mae Wythnos Diogelu Cenedlaethol yn rhedeg o ddydd Llun 12 i ddydd Gwener 16 Tachwedd. Gan weithio gyda phartneriaid o鈥檙 maes iechyd, y gwasanaethau brys, y trydydd sector ac eraill, mae鈥檙 Byrddau yn bwriadu codi ymwybyddiaeth pawb o beth mae diogelu yn ei olygu a鈥檙 llu o sefyllfaoedd y gall fod yn berthnasol.
Mae diogelu yn golygu amddiffyn plant ac oedolion diamddiffyn rhag camdriniaeth ac esgeulustod a sicrhau eu lles. Mae sicrhau bod pobl yn cael eu cefnogi i fyw bywydau llawn a hapus yn rhan bwysig o ddiogelu hefyd.
Thema鈥檙 Wythnos Diogelu Cenedlaethol eleni yw Ecsbloetiaeth.聽
Dywedodd y Cynghorwyr Christine Jones a Billy Mullin, Cefnogwyr Diogelu Corfforaethol Cyngor Sir y Fflint:
鈥淩ydym ni鈥檔 llwyr gefnogol o鈥檙 Wythnos Ddiogelu a fydd yn helpu i godi ymwybyddiaeth o faterion diogelu sydd yn cynnwys cam-fanteisio鈥檔 rhywiol ar blant, priodas dan orfod, masnachu mewn pobl a throseddau rhywiol difrifol.
鈥淢ae鈥檔 bwysig bod gan bob un ohonom ni fwy o ymwybyddiaeth o鈥檙 materion a鈥檔 bod yn amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl. Ein prif neges yr wythnos hon ydi 鈥淥s gwelwch chi rhywbeth 鈥 Dywedwch rhywbeth.聽 Mae diogelu yn gyfrifoldeb ar bawb鈥 鈥 mae鈥檔 rhaid i bob un ohonom allu adnabod yr arwyddion a bod yn ymwybodol o sut i roi gwybod amdanyn.鈥
I gael gwybod mwy am ddiogelu ac i gael manylion llawn o鈥檙 digwyddiadau ar draws gogledd Cymru, ewch i: www.bwrdddiogelugogleddcymru.cymru.