Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cyflwyniad ar Brosiect Cyfnewid Ieuenctid Japan 2018
Published: 31/10/2018
Chloe Stark, Lucy Harrison, Cyng. Cunningham, Andy Cowling, Joan Cuningham, Alex Moutrie, Jess Randell & Grace Davies
听
听
Rhoddodd chwech o fyfyrwyr Sir y Fflint a deithiodd i Japan fel rhan o Brosiect Cyfnewid Ieuenctid Optec Sir y Fflint 2018 gyflwyniad disglair am eu profiadau.听
Rhannodd y bobl ifanc eu profiadau gyda chynulleidfa o fyfyrwyr eraill sydd 芒 diddordeb mewn gwneud cais am le ar daith gyfnewid 2019 mewn Noson Gyflwyno a gynhaliwyd gan y Cyng. Paul Cunningham, Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint.听
Aeth Alex Moutrie, Andy Cowling, Chloe Stark, Grace Davies, Jessica Randell a Lucy Harrison i Japan ym mis Awst eleni i aros gyda theuluoedd Japaneaidd yn nhrefi Murata, Kawasaki a Zao. Yn eu cyflwyniad fe wnaethant drafod eu profiadau o fywyd Japaneaidd, gan gynnwys byw gyda theulu Japaneaidd, pa fath o fwyd wnaethon nhw ei fwyta a鈥檙 llefydd y gwnaethon nhw ymweld 芒 nhw yn ystod eu pythefnos yn y wlad.听
Fe wnaethant hefyd s么n am groesawu eu cyfeillion o Japan i Sir y Fflint a dangos agweddau ar ddiwylliant Cymru iddyn nhw, ac am y cyfeillgarwch a gr毛wyd dros bedair wythnos y prosiect. Dangosodd y myfyrwyr luniau ou hymweliadau 芒 Tokyo, beddrodau, mannau o harddwch naturiol a lluniau eraill o鈥檜 hanturiaethau niferus, gan gynnwys gwneud papur traddodiadol a mynychu gwyliau Japaneaidd.
Meddai鈥檙 Cynghorydd Cunningham:听
鈥淢aer cysylltiadau sy鈥檔 cael eu meithrin drwyr prosiect cyfnewid hwn yn rhoi cyfle ir ddwy wlad ddod ynghyd i gyfnewid syniadau ac i ddysgu am ffordd o fyw a diwylliant ei gilydd. Maer prosiect cyfnewid ieuenctid wedi bod yn llwyddiant ysgubol o ran datblygu dealltwriaeth a goddefgarwch, yn enwedig ymysg y genhedlaeth iau, ac mae hynny鈥檔 mynd i fod o fudd i gysylltiadau rhyngwladol yn y dyfodol. Hoffwn ddiolch i Ymddiriedolaeth Cyfnewid Ieuenctid Japan Optec Sir y Fflint am ei nawdd parhaus a hael i ochr Sir y Fflint o鈥檙 rhaglen gyfnewid a hefyd am y cymorth hael a gafwyd eleni gan Toyota Uk, Glannau Dyfrdwy, Calbee UK Ltd a Sefydliad Sasakawa Prydain Fawr.
Cytunodd rhieni Sir y Fflint a groesawodd fyfyrwyr Japaneaidd iw cartrefi fod y profiad hwn yn un unwaith mewn oes ac maen nhwn argymell y rhaglen i unrhyw deulu arall sydd 芒 phlentyn sydd 芒 diddordeb mewn gwneud cais ar gyfer prosiect cyfnewid 2019.
Cydlynir y rhaglen gyfnewid gan Ymddiriedolaeth Cyfnewid Ieuenctid Japan Optec Sir y Fflint ac mae ar agor i bob myfyriwr sy鈥檔 16 鈥� 18 oed ar 1 Medi 2018 ac sydd mewn addysg llawn amser yn ysgolion a cholegau Sir y Fflint.听
Mae鈥檔 rhaid dychwelyd ceisiadau ar gyfer prosiect cyfnewid 2018 erbyn dydd Mawrth 6 Tachwedd. Am ragor o wybodaeth neu ffurflenni cais cysylltwch 芒 Karen Jones, Cydlynydd Prosiect Cyfnewid Ieuenctid Japan, ar 07759295984 neu mailto:karenjones@flintshire.gov.uk.