天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynigion i wella hygyrchedd ar lwybr arfordir Sir y Fflint

Published: 12/07/2023

Yn dilyn adolygiad o fesurau rheoli mynediad sydd mewn lle ar ran o Lwybr Arfordir Cymru rhwng Caer a Queensferry, gofynnir i aelodau Cabinet gefnogi鈥檙 argymhellion ar gyfer gwell hygyrchedd pan fyddent yn cwrdd ddydd Mawrth 18 Gorffennaf.

Mae nifer o argymhellion wedi cael eu rhoi ymlaen i wella hygyrchedd ar 14 o bwyntiau mynediad ar hyd llwybr yr arfordir.听听

Dywedodd Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a鈥檙 Economi, y Cynghorydd David Healey:

鈥淢ae gennym rwystrau rheoli mynediad effeithiol mewn lle i ddiogelu defnyddwyr llwybr yr arfordir yn erbyn y peryglon a achosir gan fynediad anghyfreithlon gan gerbydau.听 Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod y rhwystrau rheoli hyn yn cyflwyno problemau mynediad i rai defnyddwyr sgwteri symudedd a beiciau anghonfensiynol.

Rydym wedi gwrando ar bryderon a godwyd gan bobl sy鈥檔 dibynnu ar gymorthyddion symudedd, gan gynnwys y rhai sy鈥檔 defnyddio cymorthyddion sy鈥檔 fwy na鈥檙 dosbarthiadau safonol o sgwteri symudedd.听 Rydym angen cydbwyso鈥檙 argymhellion yn ofalus yn erbyn effaith addasiadau o鈥檙 fath ar hygyrchedd cerbydau anghyfreithlon.

Mae gwella mynediad ar gyfer holl ddefnyddwyr dilys llwybr yr arfordir yn golygu bod angen lledu鈥檙 agoriadau presennol yn y pwyntiau mynediad, a fydd yn ei dro yn lleihau effeithiolrwydd y mesurau rheoli mynediad i atal mynediad anghyfreithlon.听 听Felly, ni fydd yn bosibl gwella mynediad ar gyfer holl ddefnyddwyr dilys yn gyfan gwbl wrth gadw鈥檙 un lefel o reolaeth mynediad er mwyn atal y defnydd o gerbydau megis ceir a beiciau modur.鈥

Gofynnir i aelodau cabinet ystyried y ddau argymhelliad gan gynnwys uwchraddio鈥檙 A-Fframiau presennol i ddarparu gwell hygyrchedd ar gyfer defnyddwyr dilys sydd ag allwedd radar ac amnewid rhwystr presennol gyda giatiau gwasgarog.听