Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cyngor Sir y Fflint yn nodi galw sylweddol ar wasanaethau cymorth tai a digartrefedd
Published: 12/07/2023
听
Mae Gwasanaeth Tai ac Atal Cyngor Sir y Fflint wedi nodi cynnydd sylweddol o ran nifer y bobl sydd wedi cysylltu 芒鈥檙 gwasanaeth am gymorth dros y 12 mis diwethaf wrth i fwy o bobl ddod yn ddigartref.
Mae鈥檙 argyfwng costau byw, amodau anodd y farchnad dai a diffyg tai fforddiadwy yn ffactorau sy鈥檔 rhoi galw digynsail ar wasanaethau ac yn creu heriau cyllidebol sylweddol.
Mae鈥檙 Gwasanaeth Tai ac Atal yn anelu i atal digartrefedd drwy ddarparu ymyriadau a chefnogaeth, gweithio鈥檔 rhagweithiol i ddarparu tai brys a chefnogaeth i bobl pan fo gwaith atal yn aflwyddiannus neu nid oes cyfle i atal rhywun rhag dod yn ddigartref.听 听
Er gwaethaf yr holl waith ardderchog a wnaed gan y Cyngor a鈥檌 bartneriaid i atal digartrefedd, mae鈥檙 galw am dai brys yn cynyddu gan roi pwysau mawr ar adnoddau.听 Wrth drafod y galw sylweddol ar y Gwasanaeth Tai ac Atal, dywedodd Vicky Clark, y Prif Swyddog Tai a Chymunedau:
鈥淢ae鈥檙 Cyngor a鈥檌 bartneriaid tai yn darparu tai cymdeithasol i bobl yn Sir y Fflint.听 Mae cynnydd sylweddol mewn galw, ac nid oes gennym ddigon o dai i ddiwallu anghenion pobl yn ein cymunedau, a鈥檙 rhai hynny mewn perygl o ddod yn ddigartref.
Bu i adroddiad cenedlaethol diweddar gan Sefydliad Bevan, yn canolbwyntio ar fforddiadwyedd tai ledled Cymru, ganfod mai dim ond 59 o gartrefi rhent preifat oedd ar gael yn Sir y Fflint yn ystod mis Chwefror 2023, ac nid oedd yr un ohonynt yn codi rhent a fyddai鈥檔 fforddiadwy i bobl sy鈥檔 dibynnu ar gredyd cynhwysol neu fudd-daliadau tai.听听
Er gwaethaf y galw sylweddol ar ein gwasanaethau, rydym wedi ymrwymo i gynyddu ein stoc o dai fforddiadwy i ddiwallu anghenion y rheini sy鈥檔 ddigartref ac i ddiwallu anghenion pawb sydd ag anawsterau o ran eu sefyllfa dai, ac rydym yn gweithio鈥檔 agos gyda鈥檔 partneriaid tai ar gynlluniau uchelgeisiol i adeiladu mwy o dai - ond mae hyn yn cymryd amser, wrth reswm.鈥澨
Ychwanegodd y Cynghorydd Sean Bibby, Aelod Cabinet Tai ac Adfywio:
鈥淧an fo pobl yn ddigartref, neu mewn perygl o ddod yn ddigartref, byddwn yn sicrhau bod cymorth tai yn cael ei gynnig yn ogystal ag unrhyw anghenion cefnogaeth eraill a nodir.听听
Mae un unigolyn neu deulu yn profi digartrefedd yn un yn ormod, ac mae鈥檔 bryderus iawn bod nifer y bobl sy鈥檔 profi digartrefedd yn cynyddu.听 Wedi dweud hynny, nid yw鈥檙 mater hwn yn unigryw i Sir y Fflint, mae鈥檙 DU yn wynebu argyfwng tai.听听
Mae鈥檙 Gwasanaeth Tai ac Atal yn Sir y Fflint yn cynnig gwasanaeth 24/7 ardderchog i helpu pobl i osgoi dod yn ddigartref, ond mae鈥檙 her yn sylweddol ac yn aml nid oes fawr o siawns o atal digartrefedd i rai pobl, os o gwbl.听
Mae鈥檔 r么l heriol i swyddogion, mae鈥檙 adnoddau sydd ar gael i ni i atal digartrefedd yn eang ac yn cynnwys cyfryngu, cymorth i denantiaid, cyngor ar gyllidebu, pecynnau achub rhent, taliadau rhent ychwanegol, cefnogaeth i deuluoedd.听
Wrth gwrs mae hyn yn golygu cost sylweddol, ond dyma鈥檙 peth iawn i鈥檞 wneud ac rydym wedi ymrwymo i gefnogi pobl sydd angen ein help.鈥
I gael rhagor o wybodaeth am sut y gall y Gwasanaeth Tai ac Atal helpu, ewch i
听
听