天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Dathlu Bod Yn Fi Fy Hun: Llwyddiant Digwyddiad Pride Cyntaf Ysgolion Sir y Fflint!

Published: 12/07/2023

Group shot.jpgCynhaliwyd digwyddiad 鈥楧athlu Bod Yn Fi Fy Hun鈥 cyntaf ysgolion Sir y Fflint yn ddiweddar yn Ysgol Uwchradd Penarl芒g fel rhan o fis Pride, dathliad ledled y DU o gydraddoldeb LHDTC+ sydd hefyd yn codi ymwybyddiaeth am y materion sy鈥檔 cael effaith ar y gymuned LHDTC+.听听

Trefnwyd y digwyddiad dyrchafol ac ysbrydoledig hwn gan staff a disgyblion Ysgol Uwchradd Penarl芒g ynghyd 芒 Th卯m Ysgolion Iach a Gwasanaeth Ieuenctid Sir y Fflint.听听

Mynychodd oddeutu 250 o ddisgyblion o ysgolion uwchradd ar draws y sir y dathliad, gyda chefnogaeth 25 o wahanol elusennau a sefydliadau sy鈥檔 gysylltiedig 芒鈥檙 gymuned LHDTC+, ynghyd 芒 nifer o urddasolion.听 听

Addurnwyd yr ysgol gyda fflagiau enfys, baneri ac addurniadau i greu cefnlen berffaith ar gyfer diwrnod llawn hwyl a ddechreuodd gyda Llysgenhadon LHDTC+ Penarl芒g a oedd yn cynnal y digwyddiad.听 Daeth disgyblion o bob ysgol at ei gilydd i fynychu鈥檙 gweithdai arbennig gan wahanol ddarparwyr, gan gynnwys Mind Cymru, Wisekids, Theatr Clwyd a Heddlu Gogledd Cymru.

Yn y prynhawn, rhannwyd arferion da ymhlith y disgyblion a chafwyd cyflwyniadau gan Leola Roberts-Biggs o Senedd Ieuenctid Cymru a Connor Freel o Heddlu Gogledd Cymru.听 听Mwynhawyd y parti i ddilyn gan gannoedd o bobl, gyda pherfformiadau gan g么r Ysgol Uwchradd Penarl芒g, perfformiad codi hwyl a symudiadau Zumba egn茂ol dan arweiniad Kirsty Hughes o Hamdden Aura i godi pawb ar eu traed!

Uchafbwynt y digwyddiad oedd yr hwylusydd gweithdai a鈥檙 actor llawrydd Taylor Martin, a fynychodd fel eu hunan arall, Mel Teaser mewn arddull drag Prydeinig eiconig gyda thro cyfoes.听听

Meddai Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Ian Roberts:

鈥淢ae gan bob aelod o鈥檔 cymuned hawl i amgylchedd dysgu a gweithio lle caiff pob agwedd o鈥檔 hunaniaethau eu cydnabod a鈥檜 parchu, a lle gallwn deimlo鈥檔 ddiogel.鈥

Meddai Claire Homardm Prif Swyddog, Addysg ac Ieuenctid:听

鈥淩oedd yn ddiwrnod hyfryd, ac roedd yn amlwg fod y bobl ifanc yn cael amser gwych.听 Roedd yn ddathliad arbennig o amrywiaeth a chynhwysiant ar draws ein hysgolion uwchradd, ac edrychwn ymlaen at weld rhagor o ddigwyddiadau fel hyn yn cael eu cynnal yn y dyfodol.鈥

Mae鈥檙 adborth gan y bobl ifanc wedi bod yn rhagorol, dyma rai dyfyniadau o鈥檙 gweithgaredd gwerthuso a gwblhawyd ar y diwrnod:听

鈥淒igwyddiad hwyliog iawn, rwyf wedi mwynhau鈥檔 fawr; mae鈥檔 bwysig dathlu amrywiaeth a sicrhau fod pawb yn cael eu cynrychioli鈥.听

鈥淢ae鈥檙 digwyddiad wedi dysgu i mi ac eraill ble i gael cymorth os ydym yn cael trafferth鈥.听

鈥淢ae鈥檙 digwyddiad pride wedi gwneud i mi deimlo鈥檔 rhan o gymuned ac wedi fy helpu i ddeall bod llawer o bobl eraill sy鈥檔 rhan o鈥檙 gymuned honno hefyd鈥.听

Mae trefnwyr y digwyddiad llwyddiannus eleni eisoes wedi dechrau cynllunio digwyddiad mwy a gwell ar gyfer y flwyddyn nesaf ac yn hynod o falch o鈥檙 gwaith hwn i godi ymwybyddiaeth a chefnogi pobl ifanc.听