天涯社区

Fel llawer o sefydliadau ledled y byd, rydym ar hyn o bryd yn cael ein heffeithio gan doriad byd-eang Microsoft 365. Mae hyn yn achosi tarfu ar rai o'n systemau a'n gwasanaethau, gan gynnwys e-byst (Outlook).

Mae ein timau TG yn ymwybodol o'r mater ac yn monitro cynnydd Microsoft yn agos wrth iddynt weithio i adfer y gwasanaeth i'r arfer. Ymddiheurwn am unrhyw darfu neu oedi wrth ymateb a allai ddeillio o hyn, a diolch am eich amynedd tra bod Microsoft yn datrys y broblem.

Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu yma cyn gynted ag y bydd mwy o wybodaeth ar gael.

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Jambori Sir y Fflint!

Published: 29/06/2023

Jamboree.jpgCynhaliodd T卯m Ymgynghorol y Gymraeg Sir y Fflint eu sioe gerdd Jambori tri diwrnod ar gyfer plant Blwyddyn 2. Roedd hwn yn ddigwyddiad cyffrous iawn i ysgolion eleni, gan mai hwn oedd y Jambori cyntaf ers 4 blynedd. Bu i thua 1,450 o blant Sir y Fflint fynychu鈥檙 perfformiadau dros y 3 diwrnod. Cafodd Martyn Geraint, y diddanwr a chyflwynydd S4C ei gomisiynu i lwyfannu chwe pherfformiad.听听

Mae Martyn Geraint wedi meithrin enw da fel un o ddiddanwyr mwyaf blaenllaw Cymru a byddwch wedi gweld ei allu naturiol i ysbrydoli plant.听 听Ynghyd 芒 bod yn brofiad llawn hwyl a chymdeithasol, mae Jambori yn cynorthwyo i wella sgiliau dwyieithrwydd y plant ac yn darparu dimensiwn ychwanegol i wersi Cymraeg drwy gynnig profiad dysgu cadarnhaol gan ddefnyddio cerddoriaeth.

Cynhaliwyd y Jambori yn Neuadd Ddinesig Cei Connah, ac fe hoffai鈥檙 t卯m ddiolch i Gyngor y Dref am eu cefnogaeth barhaus.

Mae plant Blwyddyn 2 o 50 o ysgolion cynradd ar draws Sir y Fflint wedi bod yn brysur yn dysgu caneuon i鈥檞 galluogi i ganu yn Gymraeg gyda Martyn Geraint.听听

听

听