Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cyfraddau Casglu Treth y Cyngor ar Gyfer Sir y Fflint yn 2022-23
Published: 15/06/2023
Mae ffigurau newydd a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn dangos bod aelwydydd yn Sir y Fflint yn parhau i flaenoriaethu taliadau Treth y Cyngor er mwyn ariannu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol, er gwaetha鈥檙 argyfwng costau byw.听
Yn 2022-23, casglodd y Cyngor 97.4 y cant o Dreth y Cyngor 鈥� ymhell o flaen y cyfartaledd cenedlaethol o 96.1 y cant, ac mae Sir y Fflint yn parhau i fod ymhlith y Cynghorau sy鈥檔 perfformio orau yng Nghymru o ran casglu Treth y Cyngor yn ystod y flwyddyn. Y Cyngor hwn sydd 芒鈥檙 nifer isaf ond un o symiau sydd heb eu talu fesul annedd drethadwy o ran 么l-ddyledion mwy hirdymor.听
Yn ogystal 芒 chynyddu casgliadau, mae鈥檙 gwasanaeth Treth y Cyngor yn parhau i drawsnewid y ffordd y mae'n gweithredu drwy ei gwneud yn haws i drigolion dalu eu biliau neu wneud cais am ostyngiadau. Gall aelwydydd yn Sir y Fflint dalu trwy ddebyd uniongyrchol wythnosol 鈥� un o ychydig o Gynghorau yng Nghymru sy鈥檔 cynnig cynllun talu mor hyblyg.
Wrth s么n am y cyhoeddiad, dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd y Cyngor:
鈥淢ae hwn yn gyflawniad ardderchog, yn enwedig pan fo鈥檙 argyfwng costau byw yn cael effaith uniongyrchol ar lawer o aelwydydd yn Sir y Fflint. Hoffwn ddiolch yn bersonol i bobl Sir y Fflint sy鈥檔 sicrhau bod taliadau Treth y Cyngor yn cael eu gwneud yn brydlon i helpu i dalu am wasanaethau rheng flaen hanfodol.
Rydym ni鈥檔 parhau i gydnabod y gall rhai teuluoedd ei chael hi鈥檔 anodd talu, a byddwn i'n annog unrhyw un sy'n cael trafferth talu i gysylltu鈥檔 syth bin 芒 Gwasanaeth Treth y Cyngor ar 01352 704848 fel y gallwn ni ddarparu cymorth ac arweiniad ymarferol."
听
听