Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cyswllt Sir y Fflint yn dathlu blwyddyn o lwyddiant
Published: 14/06/2023
Bydd Aelodau鈥檙 Cabinet yn ystyried perfformiad blynyddol Sir y Fflint yn Cysylltu, y gwasanaeth sy鈥檔 gyfrifol am ddarparu mynediad wyneb yn wyneb a digidol i wasanaethau鈥檙 Cyngor, pan fyddant yn cyfarfod ar ddydd Mawrth 20 Mehefin.
听
Mae Sir y Fflint yn Cysylltu yn darparu cefnogaeth wyneb yn Wyneb i drigolion bregus yn Sir y Fflint i gael a gwneud cais am amrywiaeth o wasanaethau gan gynnwys Bathodynnau Glas, Tai Cymdeithasol, Digartrefedd a Budd-daliadau.听 Mae canolfannau ym Mwcle, Cei Connah, Fflint, Treffynnon, a鈥檙 Wyddgrug yn darparu ymgynghorwyr medrus sy鈥檔 canolbwyntio ar gefnogi trigolion.
听
Wrth siarad am y gefnogaeth a ddarperir gan Sir y Fflint yn Cysylltu, dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Llywodraethu a Gwasanaethau Corfforaethol:
听
鈥淩wy鈥檔 hynod falch fod yr adroddiad perfformiad blynyddol yn adlewyrchu ymrwymiad parhaus Sir y Fflint yn Cysylltu i gyflwyno gwasanaethau cyhoeddus hygyrch, ymatebol o ansawdd uchel.听 Mae鈥檙 Ymgynghorwyr Cysylltu yn gweithio鈥檔 hynod o galed i ddarparu gwasanaeth o鈥檙 radd flaenaf, nid yn unig i gefnogi pobl i gael a gwneud cais am wasanaethau, ond hefyd i gefnogi pobl gyda鈥檜 sgiliau llythrennedd digidol.
听
Mae Sir y Fflint yn Cysylltu wedi wynebu heriau recriwtio sylweddol dros y 12 mis diwethaf, a hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i drigolion am eu cefnogaeth a鈥檜 dealltwriaeth pan rydym wedi cyfyngu ein hamseroedd agor.
听
Bu i ni wneud y penderfyniad anodd yn gynharach eleni i leihau oriau agor ym Mwcle a鈥檙 Wyddgrug fel rhan o鈥檙 gwaith mae鈥檙 Cyngor wedi ei wneud i reoli setliad ariannol anodd.听 Fodd bynnag, wrth i ni symud ymlaen, rwy鈥檔 falch o rannu penderfyniad y Cabinet i gynyddu nifer y diwrnodau y bydd Bwcle yn Cysylltu ar agor.听
听
I gydnabod pwysigrwydd y gwasanaeth ac er gwaethaf y setliad ariannol hynod o anodd, bydd Bwcle yn Cysylltu ar agor 3 diwrnod bob wythnos, yr un fath 芒鈥檙 Wyddgrug yn Cysylltu.听听 Bydd y newid hwn yn cael ei gyflwyno cyn gynted ag y mae ein hymgynghorwyr newydd wedi cael hyfforddiant llawn ac yn hyderus i gyflwyno鈥檙 ystod lawn o wasanaethau a gynigir.
听
Cymeraf y cyfle hwn hefyd i hyrwyddo cynhwysiant digidol.听 Mewn byd digidol sy鈥檔 tyfu mae鈥檔 bwysig nad oes unrhyw un yn cael ei adael ar 么l.听 Rwy鈥檔 annog unrhyw un sydd angen cefnogaeth ddigidol i ymweld ag un o鈥檔 Canolfannau croesawgar ble gallant ddefnyddio鈥檙 rhyngrwyd a dyfeisiau am ddim a gall unrhyw un sydd angen data gael SIMs data am ddim.鈥
听
Mae Sir y Fflint yn Cysylltu yn darparu cefnogaeth i drigolion ar incwm isel i sicrhau eu bod yn cael cysylltiadau digidol trwy ddarparu cardiau SIM a thalebau data am ddim iddynt trwy鈥檙 Banc Data Cenedlaethol. Mae cefnogaeth ar gael yn unrhyw un o鈥檙 pum Canolfan Gysylltu ledled y sir.
听