Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Effaith costau ynni cynyddol ar Gyngor Sir y Fflint
Published: 09/06/2023
Yn sgil costau ynni cynyddol, bydd gofyn i Aelodau鈥檙 Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Thai ystyried ffioedd gwresogi arfaethedig ar gyfer eiddo鈥檙 Cyngor gyda systemau gwresogi cymunedol yn y cyfarfod ar 14 Mehefin 2023.
听
Mae Cyngor Sir y Fflint yn gweithredu wyth cynllun gwresogi cymunedol a dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae preswylwyr sy鈥檔 byw mewn canolfannau cymunedol wedi elwa o gostau ynni isel yn seiliedig ar gyfradd contract diwydiannol a masnachol is a sicrhawyd gan y Cyngor.听听听
听
Mae鈥檙 Cyngor wedi adnewyddu ei gontract diwydiannol a masnachol ac mae鈥檙 tariff newydd ar gyfer nwy wedi cynyddu yn unol 芒鈥檙 cyfraddau marchnad cenedlaethol.听听 O ganlyniad, mae鈥檙 Cyngor yn wynebu cynnydd sylweddol mewn costau nwy sy鈥檔 golygu cynnydd anochel yng nghostau鈥檙 preswylwyr yn y canolfannau cymunedol.
听
Meddai Vicky Clark, Prif Swyddog Tai a Chymunedau:
听
鈥淩ydym yn deall yr effaith mae鈥檙 costau ynni cynyddol yn ei chael ar bawb yn ein cymuned.听听 Rydym wedi llwyddo i ddiogelu preswylwyr sy鈥檔 byw mewn canolfannau cymunedol rhag codiadau sylweddol yn y pris dros y pum mlynedd diwethaf, ond oherwydd amgylchiadau sydd y tu hwnt i鈥檔 rheolaeth, bydd eu ffioedd yn codi i adlewyrchu鈥檙 costau ynni byd-eang cynyddol.听听 Byddwn yn parhau i weithio gyda phreswylwyr yn ystod y newid hwn a鈥檜 cefnogi i gael mynediad at gymorth neu gyllid a allai fod ar gael iddynt.鈥
听
Wrth drafod y cynnydd mewn costau ynni, meddai鈥檙 Cynghorydd Sean Bibby, Aelod Cabinet Tai ac Adfywio:
听
鈥淢ae鈥檙 cynnydd sylweddol mewn costau nwy鈥檔 golygu y bydd ffioedd gwresogi preswylwyr sy鈥檔 byw mewn canolfannau cymunedol yn cynyddu. Mae鈥檙 cynnydd hwn yn anffodus ond yn anochel gan fod rhaid i鈥檙 Cyngor godi eu ffioedd yn unol 芒鈥檙 cynnydd mewn tariffau.鈥
听
Yn amodol ar gymeradwyaeth, bydd y ffioedd gwresogi arfaethedig yn dod i rym o 31 Gorffennaf 2023.
听