Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Llwybr pren newydd yn agor yn Nhalacre
Published: 31/05/2023
Mae platfform gwylio a llwybr pren newydd yn Nhalacre wedi agor yn swyddogol ar gyfer eu defnyddio yn dilyn ymdrech amlasiantaethol i wella鈥檙 hen lwybr.听
Cydlynwyd y gwaith gan D卯m Mynediad ac Amgylchedd Naturiol Cyngor Sir y Fflint, ac ariannwyd y prosiect gan Lywodraeth Cymru drwy brosiect Llwybr Arfordir Cymru, ac fe鈥檌 gweinyddwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru gyda chyllid cyfatebol gan Eni UK Limited.听听
Mae鈥檙 ymdrech hwn ar y cyd wedi arwain at lwybr pren newydd sy鈥檔 darparu llethr mwy llydan a haws ei ddefnyddio gyda mannau pasio ychwanegol ac mae platfform gwylio i gael gwell mynediad at y traeth a phrofiad gwell i ymwelwyr.听
Croesawodd y llwybr newydd ei ymwelwyr cyntaf o Ysgol Owen Jones yn Llaneurgain, pan gymerodd y disgyblion ran mewn diwrnod addysg arfordirol gan Eni UK fel rhan o鈥檜 gweithgaredd buddsoddiad cymunedol yn yr ardal.
Dywedodd y Cyng. David Healey, Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a鈥檙 Economi Cyngor Sir y Fflint:
鈥淩oedd y llwybr pren blaenorol wedi cael ei ddefnyddio鈥檔 fawr ac roedd yn un o鈥檙 prif bwyntiau mynediad o Dalacre i鈥檙 traeth, yn arbennig ar gyfer ymwelwyr 芒 phroblemau symudedd.听 Roedd angen ei uwchraddio ac felly gobeithio bydd y strwythur newydd yn cyflawni鈥檙 gwaith!听 Mae wedi cael ei ddylunio i fod yn lletach, yn fwy hygyrch a sensitif i鈥檙 cynefinoedd pwysig ar Dwyni Tywod Talacre.鈥
Mae鈥檙 prosiect yn un o lwyddiannau diweddaraf y bartneriaeth hirdymor rhwng Eni UK, Cyfoeth Naturiol Cymru a Th卯m Mynediad ac Amgylchedd Naturiol Cyngor Sir y Fflint. Mae鈥檙 bartneriaeth wedi cyflawni gwelliannau amgylcheddol enfawr, megis clirio rhywogaethau goresgynnol, gwaith i helpu ailgyflwyno a diogelu rhywogaethau mewn perygl megis y llyffant cefnfelyn a madfall y tywod ac adfer cynefinoedd megis y llaciau twyni tywod.

Llun:
- Disgyblion o Ysgol Owen Jones yn mwynhau鈥檙 defnydd cyntaf o鈥檙 platfform gwylio a鈥檙 llwybr pren newydd yn Nhalacre
- Y llwybr pren newydd yn Nhalacre (Llun 鈥 Ben Parry)
听
听