Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Digwyddiad Dathlu Meicro-Ofal
Published: 31/05/2023
Bu Cyngor Sir y Fflint yn cydnabod ei fentrau meicro-ofal, sydd wedi dod yn rhan hanfodol o鈥檙 sector gofal yn Sir y Fflint, mewn Digwyddiad Dathlu ar 24 Mai, yn yr Holiday Inn, A55, Gorllewin Caer. Daeth dros 40 o bobl, sawl un ohonynt yn ddarparwyr Meicro-Ofal, i glywed am y gwaith cadarnhaol sy鈥檔 cael ei wneud o fewn y gymuned, y llwyddiannau mae pobl wedi eu cael o sefydlu eu meicro-fentrau eu hunain yn Sir y Fflint, ac er mwyn i鈥檙 Cyngor ddiolch yn fawr am wasanaeth y mentrau Meicro-Ofal ers i鈥檙 prosiectau gychwyn yn 2019.听听
Mae Meicro-Ofalwyr yn bobl sydd wedi sefydlu eu busnesau eu hunain, un ai i weithredu fel masnachwr unigol neu gyda nifer fechan o staff, i gefnogi pobl gyda gofal personol neu les yn ardal Sir y Fflint. Ar hyn o bryd, mae 31 o Ofalwyr-Meicro sy鈥檔 rhoi cefnogaeth hollbwysig i dros 150 o bobl yn yr ardal, gan ddarparu gofal uniongyrchol neu wasanaethau lles creadigol. Mae鈥檙 datblygiad newydd hwn o fewn y sector gofal wedi galluogi Cyngor Sir y Fflint i atynnu pobl newydd i鈥檙 gweithlu, a denu pobl sydd wedi gadael yn y gorffennol i ddychwelyd, gan alluogi pobl i reoli eu patrymau gwaith, drwy redeg eu busnesau eu hunain.听
Fe glywodd y gynulleidfa gan Ofalwyr-Meicro, ar sut wnaeth y cyfle i redeg busnes eu hunain yn y maes gofal cymdeithasol wahaniaeth iddynt, a chaniat谩u iddynt siarad am pam fod eu gwasanaeth mor hanfodol. Cafodd hyn ei gefnogi gan aelodau teulu鈥檙 bobl maent yn eu cefnogi, a roddodd eu safbwyntiau ar beth roedd y gwasanaethau wedi gwneud dros eu perthnasau, yn ogystal 芒 phobl o鈥檙 cyngor, Cwmn茂au Cymdeithasol Cymru, sy鈥檔 darparu cefnogaeth fusnes i Ofalwyr-Meicro, a Chronfa Economi Sylfaenol Llywodraeth Cymru sydd wedi cefnogi gydag ariannu鈥檙 prosiect.听
Siaradodd Prif Swyddog y Gwasanaethau Cymdeithasol, Neil Ayling yn nigwyddiad y dathliad, ac meddai;听
鈥淢ae Meicro-Ofalwyr wedi darparu gwasanaeth ofnadwy o werthfawr i bobl ledled ardal Sir y Fflint dros y 3 blynedd diwethaf, ac mae鈥檔 galonogol clywed sut mae Meicro-Ofalwyr wedi newid bywydau鈥檙 sawl sy鈥檔 sefydlu eu busnesau, yn ogystal 芒鈥檙 bobl maent yn eu cefnogi. Nod heno yw dathlu popeth maent wedi ei gyflawni, a rhoi diolch gwresog i鈥檙 Meicro-Ofalwyr, ynghyd 芒鈥檔 partneriaid, Cwmn茂au Cymdeithasol Cymru, Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint,, GOGDdC a Llywodraeth Cymru sydd wedi cyfrannu鈥檔 sylweddol at lwyddiant y prosiectau.鈥
Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, sef Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles, a oedd hefyd yn bresennol;听
鈥淢ae heno鈥檔 gyfle i ni ddangos ein gwerthfawrogiad i bob Meicro-Ofalwr, sydd wedi rhoi gwasanaeth arbennig iawn dros y 3 blynedd diwethaf. Rydym wedi bod yn ofnadwy o lwcus i elwa o鈥檙 bobl yn ein cymuned sy鈥檔 dangos brwdfrydedd, ymrwymiad a gwerthoedd er mwyn cymryd y cam nesaf o sefydlu eu busnes eu hun, ac sydd yn ei dro, yn darparu gwasanaethau gwych, o werth sylweddol.
I ganfod rhagor am fod yn Ofalwr-Meicro, neu i wybod mwy am y gwasanaethau maent yn eu cynnig, cysylltwch 芒 micro-care@flintshire.gov.uk neu ewch i
听
听