天涯社区

Fel llawer o sefydliadau ledled y byd, rydym ar hyn o bryd yn cael ein heffeithio gan doriad byd-eang Microsoft 365. Mae hyn yn achosi tarfu ar rai o'n systemau a'n gwasanaethau, gan gynnwys e-byst (Outlook).

Mae ein timau TG yn ymwybodol o'r mater ac yn monitro cynnydd Microsoft yn agos wrth iddynt weithio i adfer y gwasanaeth i'r arfer. Ymddiheurwn am unrhyw darfu neu oedi wrth ymateb a allai ddeillio o hyn, a diolch am eich amynedd tra bod Microsoft yn datrys y broblem.

Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu yma cyn gynted ag y bydd mwy o wybodaeth ar gael.

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ail-wynebu Ffordd Gerbydau'r B5129 Sandycroft

Published: 12/10/2018

Bydd Cyngor Sir y Fflint yn dechrau ar waith ail-wynebu鈥檙 ffordd a gwneud gwaith cysylltiol ar y B5129 Sandycroft rhwng Leaches Lane a Wood Street ddydd Mawrth, 16 Hydref am tua 3 wythnos (yn ddibynnol ar y tywydd). 听

Yn ystod y gwaith, bydd mesurau rheoli traffig dros dro ar waith. Bydd modd cael mynediad i eiddo a busnesau unigol o hyd, er y gallai fod peth oedi.

Dywedodd Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas:

鈥淓r gwaethaf wynebu cyfyngiadau ariannol parhaus, rydym yn falch ein bod wedi gallu sicrhau cyllid ar gyfer y gwaith gwella pwysig ac angenrheidiol hwn i鈥檔 ffyrdd sy鈥檔 dangos pa mor bwysig yw cynnal a chadw鈥檙 rhwydwaith priffyrdd i鈥檙 Cyngor hwn.

Mae鈥檙 Cyngor a鈥檔 contractwr, Roadway Civil Engineerig Ltd, yn ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw oedi neu amhariad y bydd y gwaith cynnal a chadw hanfodol hwn yn ei achosi, a byddwn yn ceisio cwblhau鈥檙 gwaith cyn gynted ag y gallwn.鈥�