天涯社区

Fel llawer o sefydliadau ledled y byd, rydym ar hyn o bryd yn cael ein heffeithio gan doriad byd-eang Microsoft 365. Mae hyn yn achosi tarfu ar rai o'n systemau a'n gwasanaethau, gan gynnwys e-byst (Outlook).

Mae ein timau TG yn ymwybodol o'r mater ac yn monitro cynnydd Microsoft yn agos wrth iddynt weithio i adfer y gwasanaeth i'r arfer. Ymddiheurwn am unrhyw darfu neu oedi wrth ymateb a allai ddeillio o hyn, a diolch am eich amynedd tra bod Microsoft yn datrys y broblem.

Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu yma cyn gynted ag y bydd mwy o wybodaeth ar gael.

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Trefnu priodas?  Dewiswch Sir y Fflint a dewch i gael golwg ar Llwynegrin ...

Published: 10/10/2018

1819-13609 Llwynegrin Hall Open Day Invites Welsh - final.jpgMae Plas Llwynegrin yn eiddo rhestredig syfrdanol ac yn lleoliad delfrydol ar gyfer eich priodas yn Sir y Fflint. Ddydd Sul 28 Hydref 2018, byddwn yn agor drysau Llwynegrin i'w arddangos fel lleoliad ardderchog ar gyfer priodasau.

Adeiladwyd y Plas godidog hwn gan Thomas Jones, oedd yn bensaer lleol ac yn syrf毛wr sirol, ac fe鈥檌 cwblhawyd yn 1830.听 Cartref gwledig tawel ydoedd tan 1948 pan brynwyd y Plas a鈥檙 tir o鈥檌 amgylch gan Gyngor Sir y Fflint. 听Mae鈥檙 Plas wedi cadw naws cartref teuluol ac mae鈥檔 cynnig cyfoeth o nodweddion y cyfnod, sy鈥檔 ei wneud yn lleoliad perffaith ar gyfer pob achlysur.

Mae鈥檙 Plas wedi鈥檌 leoli ychydig o gamau yn unig oddi wrth Theatr Clwyd, lle bydd ffair briodasau fwyaf Sir y Fflint yn cael ei chynnal ar yr un diwrnod.

Bydd y Plas ar agor rhwng 11am a 3pm, a gall ymwelwyr ddisgwyl stondinau gan gyflenwyr nwyddau priodasau a gwybodaeth am yr holl westai sydd wedi鈥檜 trwyddedu i gynnal priodasau yn Sir y Fflint. 听

Dewch i weld yr ystafell seremon茂au fendigedig a chael cyngor arbenigol gan y t卯m cofrestru. Bydd Taith Briodasol yn cael ei chynnal am hanner dydd ac am 1.30pm, fydd yn eich arwain o鈥檙 Theatr i鈥檙 Plas.

Yn ogystal 芒 phriodasau, mae Plas Llwynegrin yn cynnig seremon茂au enwi ac Adnewyddu Addunedau Priodas ac yn cynnig gwasanaethau seremon茂au dinasyddiaeth a chofrestru digwyddiadau bywyd.

Mae鈥檙 digwyddiad unigryw hwn, y cyntaf o'i fath yn Llwynegrin, ar agor i bawb, felly os ydych chi awydd gweld y tu mewn i'r adeilad hanesyddol anhygoel hwn neu eisiau dysgu mwy am y gwasanaethau sydd ar gael, mae croeso cynnes i chi oll. 听

I gael rhagor o fanylion, ffoniwch y Swyddfa Gofrestru ar 01352 703333 neu anfonwch neges e-bost i Registrars@flintshire.gov.uk.