Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gwaith yn dechrau ar adeiladu ysgol
Published: 05/10/2018

Mae Cyngor Sir y Fflint yn falch o gyhoeddi bod gwaith yn dechrau ar Ysgol Glan Aber, Bagillt i wella darpariaeth addysg yn yr ardal.听 听
Bydd Cyngor Sir y Fflint, mewn partneriaeth 芒 Llywodraeth Cymru, yn buddsoddi dros 拢2.3m i drawsnewid Ysgol Glan Aber yn ysgol sy鈥檔 addas ar gyfer y 21ain Ganrif. Mae hyn yn cynnwys 拢1.3m o nawdd Llywodraeth Cymru i ostwng maint dosbarthiadau babanod trwy greu ystafell ddosbarth ychwanegol, a fydd yn caniat谩u鈥檙 athrawon roi mwy o amser a sylw unigol i bob un o鈥檜 disgyblion.听 Bydd y nawdd hefyd yn darparu neuadd newydd a chyfleusterau bwyta.
Mae鈥檙 Cyngor wedi penodi cwmni lleol Kier Construction, a leolir yn Wrecsam i ymgymryd 芒鈥檙 gwaith gwella hwn.听 听 Mae鈥檙 cynllun yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Sir y Fflint fel rhan o raglen buddsoddi cyfalaf y Cyngor.听 听 听听
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint:
听鈥淢ae鈥檙 gwaith gwelliant hwn yn fuddsoddiad pwysig yn Ysgol Glan Aber ac yn dangos bod Cyngor Sir y Fflint, er ei fod yn gyngor cyllid isel, yn gallu diogelu arian i wella a diweddaru ein hysgolion. 听Bydd y cyfleusterau modern hyn ar gyfer ein pobl ifanc a鈥檙 gymuned ehangach yn darparu profiad dysgu ysbrydoledig newydd i鈥檔 plant ysgol.鈥
Dywedodd Peter Commins, Rheolwr Gyfarwyddwr Kier Construction Gogledd-Orllewin Lloegr:
"Rydym wrth ein bodd ein bod wedi derbyn y prosiect hwn gan Gyngor Sir y Fflint, sy鈥檔 dangos ein cryfder mewn darparu prosiectau addysg ar draws Gogledd Cymru. 听Bydd y gwaith hwn i鈥檙 ysgol bresennol a chyfleuster yr adeilad newydd yn darparu llawer o fanteision i鈥檙 ysgol a鈥檙 gymuned leol am nifer o flynyddoedd i ddod. 听 Bydd y prosiect hwn hefyd yn rhoi cyfleoedd i fusnes lleol yn ystod y gwaith adeiladu a chynhelir digwyddiad cwrdd 芒'r prynwr i ymgysylltu ymhellach 芒鈥檙 gadwyn gyflenwi leol."
Dywedodd Kirsty Williams, Ysgrifennydd Addysg Llywodraeth Cymru:
鈥淩wyf wrth fy modd o glywed fod gwaith yn dechrau ar y cyfleusterau newydd yn Ysgol Glan Aber, a fydd yn golygu maint dosbarthiadau babanod llai gyda'r nod cyffredinol o wella canlyniadau.
鈥淢ae ymchwil a thystiolaeth ledled y byd yn dweud wrthym fod cysylltiad cadarnhaol rhwng maint dosbarthiadau llai a chyrhaeddiad, yn enwedig ar gyfer ein disgyblion ieuengaf, a鈥檙 rheiny o gefndiroedd llai cefnog yn benodol, a鈥檙 rheiny ag anghenion ychwanegol.
鈥淢ae Ysgol Glan Aber yn ymgeisydd blaenllaw ar gyfer y nawdd, gyda chyfuniad o ddosbarthiadau mawr ar gyfer babanod a nifer sylweddol o ddisgyblion gydag anghenion ychwanegol.听
鈥淏ydd buddsoddi mewn cyfleusterau newydd ac ystafell ddosbarth newydd yn golygu dosbarthiadau llai a fydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn, gan ganiat谩u i athrawon roi mwy o amser a sylw unigol i bob un o鈥檙 disgyblon, a rhoi lle i ddysgwyr ddysgu mewn dosbarth modern wedi鈥檌 ddylunio鈥檔 dda.鈥