Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Miloedd o blant yn cael budd o鈥檙 Cynnig Gofal Plant
Published: 28/09/2018
Mae cynnig gofal plant Llywodraeth Cymru yn cael ei gyflwyno ledled Cymru, ac mae ar gael mewn o leiaf rhai ardaloedd yn hanner y 22 awdurdod lleol yng Nghymru. Bydd ar gael ar draws y wlad erbyn 2020.
Mae Sir y Fflint eisoes yn darparu'r cynnig gofal plant a ariennir gan Lywodraeth Cymru ar draws ei awdurdod gyfan.
Yn ogystal 芒 hynny, mae Sir y Fflint yn gweithio 芒 Wrecsam ar hyn o bryd i ddarparu'r cynnig hwn mewn rhai wardiau, a'r bwriad yw cyflwyno鈥檙 cynnig ledled eu hawdurdodau erbyn Ionawr 2019. Mae Sir y Fflint hefyd yn gweithio 芒 Sir Ddinbych ac yn bwriadu ei gyflwyno o Ionawr 2019.
Nod y cynnig gofal plant 30 awr yw lliniaru ar effeithiau tlodi a lleihau anghyfartaledd. Lluniwyd y cynnig i fod yn gynhwysol ac fel bod plant sydd ag Anghenion Addysgol Arbennig (AAA)/ Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn derbyn cymorth i gael mynediad at eu lle.
Mae nawdd y Llywodraeth yn dechrau i bob rhiant cymwys o'r tymor ar 么l i'w plentyn gael eu pen-blwydd yn dair, ac yn parhau tan fis Medi yn dilyn eu pen-blwydd yn bedair.听 Mae rhieni sy鈥檔 gweithio o leiaf 16 awr neu fwy'r wythnos, sydd 芒 phlentyn rhwng 3 a 4 oed ac yn byw yn Sir y Fflint yn gymwys i wneud cais.
Er ei bod yn bosibl i rieni beidio 芒 bod yn gymwys ar gyfer y cynnig yn seiliedig ar eu statws cyflogaeth, efallai y byddan nhw'n gymwys ar gyfer y cynnig o dan yr esemptiadau statws cyflogaeth amrywiol. Mae Sir y Fflint ar fin dechrau'r 2il flwyddyn o鈥檙 cynnig, ac ers hynny mae dros 1200 o deuluoedd wedi derbyn cymorth a thros 200 o ddarparwyr gofal plant wedi cofrestru.听 Mae gwybodaeth bellach ar gael gan Wasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Sir y Fflint.
Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint:
鈥淩wy鈥檔 falch iawn ein bod wedi cyflwyno鈥檙 cynnig gofal plant hwn ar draws y sir. Mae ein clod yn mynd i鈥檙 t卯m gofal plant am eu gwaith arbennig sydd wedi ein galluogi i helpu ein siroedd cylchynol i gyflwyno鈥檙 cynnig yn eu hardaloedd nhw yn ogystal. Bydd hyn yn sicrhau bod y cynllun yn parhau i lwyddo. Byddwn yn parhau i roi cyhoeddusrwydd a hyrwyddo鈥檙 cynnig mewn amryw o ffyrdd gan gynnwys cyflwyniadau mewn ysgolion, cynghorau tref a chymuned a darparwyr gofal plant.鈥听