Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Enwi鈥檙 Cymunedau Taclusaf 2018
Published: 27/09/2018
Llun:听Y Cadeirydd, y Cynghorydd Paul Cunningham a鈥檌 Gymar Mrs Joan Cunningham gyda鈥檙 enillwyr, y noddwyr a gwleidyddion lleol
听
听
听
听
听
Mae enillwyr pob categori ar gyfer Cymunedau Taclusaf Sir y Fflint 2018 wedi derbyn eu gwobrau mewn seremoni wobrwyo a gynhaliwyd yn Neuadd y Sir yn ddiweddar.
Yr enillydd ar gyfer y pentref taclusaf gyda phoblogaeth o dan 1,000 oedd Llanfynydd gyda Llanasa yn ail.听Cipiodd Bretton Lane ac Ysgeifiog y drydedd wobr.听Caerwys oedd enillydd y gymuned daclusaf gyda phoblogaeth o dros 1000 ac o dan 5000, gyda Llaneurgain yn cael yr ail wobr.听Daeth Coed-llai yn drydedd.听Yr Wyddgrug a Mynydd Isa oedd cyd enillwyr y canol tref taclusaf.
Enillydd yst芒d yr henoed taclusaf oedd Llys y Goron Caerwys, gyda鈥檙 ail wobr yn mynd i Belvedere Close, Queensferry.听Daeth Heol y Dderwen, Coed-Llai yn drydydd.
Dywedodd Cadeirydd y Cyngor, y Cynghorydd Paul Cunningham:
听鈥淢ae nifer a safon y ceisiadau wedi bod yn wych eleni, fel arfer.听Rwy鈥檔 sicr bod y beirniaid, Mr Les Starling a Mrs Nancy Matthews wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd wrth ddewis yr enillwyr.听Nod y gystadleuaeth yw annog cymunedau lleol, pentrefi a threfi i gydweithio i wella eu hamgylchedd a hybu balchder lleol.听听Dyma nod teilwng a chanmoladwy iawn, ac yn un rwy鈥檔 ei gefnogi鈥檔 llwyr.
听鈥淩wy鈥檔 siwr fy mod yn siarad ar ran sawl un wrth ddweud bod yr ymdrechion hyn a鈥檙 ymrwymiad yn gwneud gwahaniaeth i wneud Sir y Fflint yn lle gwell i fyw.
Mae鈥檙 gystadleuaeth ond yn digwydd oherwydd y bobl sy鈥檔 cymryd rhan ac oherwydd y noddwyr, ac eleni nhw yw Airbus, Cymdeithas Tai Clwyd Alyn, Tesco, Toyota Motor Manufacturing (UK) a Warwick Chemicals. Diolch arbennig i Mr Glyn Jones o Lindop Toyota am gael defnyddio鈥檙 car.听听Rydym yn ddiolchgar iawn am eu cefnogaeth barhaus.鈥
Mae'r enillwyr eraill wedi eu rhestru isod.
Gardd Gymunedol/Ardal Bywyd Gwyllt Taclusaf:
Y wobr gyntaf:听Neuadd Bentref a Gardd Gymunedol Pantymwyn
Yr ail wobr:听Chwarel Bryn y Baal
Y drydedd wobr:听Y Fynwent, Alexander Road, Yr Wyddgrug
Dyfarnwyd gwobrau i鈥檙 ysgolion canlynol:
Y wobr gyntaf:听Ysgol Gynradd Brynffordd
Yr ail wobr:听Ysgol Fabanod Clawdd Wat, Mynydd Isa听听听听听听听听听听听 听听听听听听听听听听听听听听听听听听听听听听听
Yn gydradd drydydd:听Ysgol Derwenfa, Coed-Llai ac Ysgol Iau Mynydd Isa
Dyfarnwyd tystysgrifau Teilyngdod i Ysgol Gynradd yr Esgob, Caerwys ac Ysgol Owen Jones, Llaneurgain