Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Wythnos 鈥楧iwrnod Mawr y Ddyfrdwy鈥 Lwyddiannus
Published: 26/09/2018
Wrth i 鈥楧diwrnod Mawr y Ddyfrdwy鈥 ddod i ben, mae Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint yn falch o lwyddiant blwyddyn arall.听 Mae 30 o sefydliadau ledled Sir y Fflint wedi bod allan yn gweithio yn brysur i wneud gwahaniaeth i'r Afon Dyfrdwy, y foryd a鈥檙 isafonydd.听听
Cynhaliwyd dau ymarfer codi sbwriel yn Nhalacre yn ystod yr wythnos gydag ENI, Cadwch Gymru'n Daclus a gwirfoddolwyr yn cydlynu 鈥楧iwrnod Mawr y Ddyfrdwy鈥 a 鈥楾he Great British Clean鈥 y Gymdeithas Cadwraeth Forol.听 Rhoddodd y timau hyn sylw i 7000 metr sgw芒r o鈥檙 traeth gan ddod o hyd i ond 1.5 bag bin o sbwriel, a dros hanner hwn yn blastig neu polystyren.听听
Ymhellach draw ar hyd llwybr yr arfordir, bu Warwick Chemicals, Ysgol Bryn Pennant a Th卯m Cadwraeth a Chefn Gwlad Sir y Fflint yn plannu, gwasgaru a gosod gwerth 拢1500 o fylbiau, planhigion, hadau a blodau gwyllt i fywiogi鈥檙 ardal.听 Gweithiodd y t卯m o 27 o blant ac oedolion yn galed gan dreulio cyfanswm o 120 awr ym Mostyn.听
Gweithiodd staff McDonalds, Ceidwad Presthaven a Cheidwaid Cefn Gwlad yn ddiflino yn ardal Llannerch y M么r i glirio mwy na 10 tunnell fetrig o ddeunydd wedi鈥檌 dipio鈥檔 anghyfreithlon yn ogystal 芒 40 bag o sbwriel.听听
Bu Ceidwaid Sustrans allan eto yn codi sbwriel o borthladd Cei Connah i bont Queensferry.听 Roeddent yn defnyddio eu beiciau i ddilyn y llwybr beiciau er mwyn canfod ardaloedd crynodedig o blastigion morol.听
Am y tro cyntaf ar gyfer Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy, ymunodd Ceidwaid Arfordirol Sir y Fflint gydag Adarwyr y Ddyfrdwy a staff yr RSPB, Y Weinyddiaeth Amddiffyn, Clwb Awyrennau Model Glannau Dyfrdwy a Landmark i glirio dros 2 dunnell o sbwriel a oedd wedi cronni ar y traethlin ger y maes tanio.听 Croesawyd y lluniaeth gan Landmark ar gyfer y gwirfoddolwyr blinedig.听 Cynorthwyodd Tata Steel gyda mynediad a chael gwared ar y pibellau gwydr ffibrog hir gan wneud gwahaniaeth aruthrol i edrychiad arglawdd gogleddol aber yr Afon Dyfrdwy. Hefyd, gwnaethant gasglu efallai鈥檙 eitemau mwyaf erioed wrth i flociau anferth o bolystyen dros 3m o hyd a 2m o led gael eu cario i'r traeth.
Yn Fflint, casglodd yr RNLI tua 10 bag o blastigion morol o鈥檙 blaendraeth.听
Rhoddodd prentisiaid Airbus a Galliford Try sylw i arglawdd gogleddol a deheuol yr afon o Saltney Ferry i ffin Cymru/Lloegr, gyda鈥檙 Ceidwaid Arfordirol a llenwodd dros 20 o wirfoddolwyr fagiau o sbwriel morol.听听
Gweithiodd gwirfoddolwyr y Cei ar adfer yr hen borthladd ger canolfan dreftadaeth Kathleen a May. Symudwyd dros 10 bag o bridd a glaswellt a oedd yn gorchuddio nodweddion treftadaeth yr hen borthladd. Gweithiodd gwirfoddolwyr ac aelodau ar y cychod gan dorri鈥檙 goeden f锚l a oedd yn tyfu o waliau'r porthladd.听听
Bu Tesco yn codi sbwriel ar daith gylchol y Castell yn y Fflint gan fynd i lefydd anghyffredin i symud dros dunnell a hanner o sbwriel gan gynnwys argraffwyr, peiriannau gwn茂o, hen feiciau, troliau Sainsbury, radios ceir a llawer iawn o blastigion morol a oedd wedi cronni ar hyd y blaendraeth.听 Dyma un rhan yn unig o ddiwrnod Tesco gydag aelodau staff yn gweithio mewn 5 sir arall yn gwneud amryw o dasgau.
Bu Cyfeillion Parc Gwepra yn codi sbwriel yn y ffrwd ym Mharc Wepre, y grwp ARCH yn codi sbwriel yn nyffryn Maes Glas ac yna sgowtiaid Treffynnon yn codi sbwriel rhwng dyffryn Maes Glas a phorthladd Maes Glas.听 Hefyd, cynhaliodd Cyfeillion Blaendraeth Bagillt ymarfer codi sbwriel yn Bettisfield a bydd Toyota yn ymuno 芒 Groundwork i docio a chlirio yng Nghei Connah gan gwblhau blwyddyn lwyddiannus arall ar gyfer 鈥楧iwrnod Mawr y Ddyfrdwy'.
Meddai Tom Woodall, Pennaeth Mynediad a鈥檙 Amgylchedd Naturiol, Sir y Fflint;
听鈥淢ae wythnos ddigwyddiadau 鈥楧iwrnod Mawr y Ddyfrdwy' eleni wedi bod yn wych ac rydym yn falch iawn o'r gwaith gan ein grwpiau cadwraeth a chymunedol ac yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth busnesau lleol. Gallwn rwan edrych ymlaen at ddigwyddiadau'r flwyddyn nesaf a gobeithio y bydd mwy fyth o grwpiau yn dewis cymryd rhan i wneud yr Afon Dyfrdwy yn lle brafiach i bawb鈥
Meddai鈥檙 Cyng. Carolyn Thomas, Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad;
鈥淢ae Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy rwan yn fodel llwyddiannus ar gyfer mynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 pla sbwriel morol y tynnwyd sylw ato gan y gyfres Blue Planet diweddar ar y BBC. Hoffwn ddiolch i鈥檙 bobl hynny sy鈥檔 codi sbwriel yn barhaus ar yr arfordir, fel gwirfoddolwyr unigol a grwpiau, o Dalacre i Gaer. Maent allan hyd at dair gwaith yr wythnos ac mae ein Ceidwaid Arfordirol yn eu gweld ac yn eu hadnabod.听 Llawer o ddiolch.听
听