Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Coffâd i Frederick Birks
Published: 21/09/2018
Cafodd digwyddiad coff芒d ei gynnal yn ddiweddar i un o ddau o bobl yn unig o Sir y Fflint a dderbyniodd y Groes Fictoria yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.听
Ganwyd yr 2il Lt Frederick Birks, VC, MM ym Mwcle ar 16 Awst 1894.听 Ar 么l ymfudo i Awstralia yn 1913, ymrestrodd yn Llu Imperialaidd Awstralia yn 1914.
Derbyniodd Groes Fictoria am y camau a gymerodd ar 20 Medi 1917, y diwrnod cyn iddo gael ei ladd gan siel wrth iddo geisio achub ei ddynion. 听Tra鈥檔 symud ymlaen yng Nghoedwig Glencorse, Ypres, Gwlad Belg, roedd Lt Birks yn brwydro yn erbyn ergyd gwn peiriant a bomiau, gan orfodi i garsiwn oroesi ac aeth ymlaen i gipio 16 dyn mewn ymosodiad arall.
Y Groes Fictoria yw鈥檙 dyfarniad uchaf a mwyaf mawreddog ar gyfer dewrder y gellir ei dyfarnu i luoedd Prydeinig a鈥檙 Gymanwlad; cafodd 628 Croes Fictoria eu dyfarnu yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Dywedodd y Cynghorydd Andrew Dunbobbin, Cefnogwr y Lluoedd Arfog Cyngor Sir y Fflint:
鈥淔el un o ddau o bobl yn unig o Sir y Fflint wnaeth dderbyn y Groes Fictoria yn ystod y Rhyfel Mawr, mae hwn yn achlysur arbennig iawn i听 anrhydeddu ei ddewrder a darparu gwaddol parhaol yn y gymuned.
鈥淵m mlwyddyn canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf, mae'n bwrpasol ac addas i ni anrhydeddu'r holl bobl sydd wedi aberthu eu bywydau a'u cofio am byth."
Dywedodd Maer Cyngor Tref Bwcle, y Cynghorydd David Ellis:
鈥淢ae Cyngor Tref Bwcle yn falch ac yn teimlo ei bod yn anrhydedd cael y Cerrig Coffa yng Ngerddi鈥檙 Coroni, Bwcle a hefyd yn falch y bydd y Gerddi, ar yr un pryd yn ymroddedig fel Maes Chwarae Cymru.鈥
Cynhaliwyd rhan gyntaf y coff芒d yng Ngerddi鈥檙 Coroni ym Mwcle gyda鈥檙 Gerddi wedi eu dynodi鈥檔 ffurfiol yn Gae Canmlwyddiant, gan warchod y gofod er cof am bawb sydd wedi brwydro a cholli eu bywydau yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.听 听
Ar 么l cysegru cerrig coffaol y Groes Fictoria, gwahoddwyd gwesteion i Ysgol Gymunedol Westwood ar gyfer perfformiad gan ddisgyblion oedd wedi ymchwilio bywyd Frederick Birks V.C, M.M. 听听
Yn olaf, cafodd carreg goffa Frederick Birk ei bendithio yn Eglwys Sant Mathew, Bwcle.听
Roedd aelodau a swyddogion o Gyngor Sir y Fflint a Chyngor Tref Bwcle wedi mynychu鈥檙 digwyddiad, gyda theulu Frederick Birk, Uchel Gomisiwn Awstralia, y Lleng Brydeinig Frenhinol, Meysydd Chwarae Cymru a Grwp Llywio Lluoedd Arfog Sir y Fflint.
