天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Y Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP)

Published: 25/09/2018

Fe fydd Cabinet Cyngor Sir y Fflint, pan fydd yn cyfarfod ar 25 Medi, yn cael cais i gymeradwyo adroddiad yn amlinellu鈥檙 newidiadau yn yr angen am dai ers rhoi'r Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP) ar waith am y tro cyntaf. Hefyd y rhesymeg dros adolygu a diwygio rhannu deiliadaeth yr eiddo i鈥檞 gweithredu ar gyfer gweddill cyfnod y rhaglen.

Bydd yr adroddiad hefyd yn rhoi鈥檙 manylion diweddaraf i鈥檙 Cabinet ar y nifer o eiddo rhent fforddiadwy a chymdeithasol sydd wedi鈥檜 cwblhau a chynlluniau arfaethedig.

Cafodd Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol Sir y Fflint ei chymeradwyo gan y Cabinet ym mis Medi 2014 i ddarparu 500 o eiddo Cyngor newydd rhent cymdeithasol a rhent fforddiadwy arfaethedig dros gyfnod o bum mlynedd, yn ogystal 芒 112 o eiddo preifat ar gyfer eu gwerthu ar y farchnad ym Maes Gwern, Yr Wyddgrug.

Mae Camau 1 a 2 o鈥檙 Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol i gyd wedi鈥檜 cwblhau ac mae disgwyl i waith adeiladu ar gyn Ganolfan Melrose, Shotton, gael ei gwblhau ym mis Tachwedd 2018.

Mae gwaith adeiladu ar safleoedd Cam 3 yn dechrau'r mis hwn (Medi) ym Maes Gwern, Yr Wyddgrug, Llys Dewi, Penyffordd, Treffynnon a chyn safle鈥檙 Cyngor yn Dobshill.

Mae鈥檔 rhaid i鈥檙 Cyngor sicrhau fod y Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol yn darparu'r math cywir o dai sydd eu hangen a hefyd ystyried y pwysau mewn perthynas 芒'r galw cynyddol am dai cymdeithasol, digartrefedd a鈥檙 diffyg cymysgedd addas o dai i gwrdd 芒'r galw cynyddol.

Dywedodd Aelod Cabinet Tai Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Bernie Attridge:

鈥淵n ychwanegol at y newidiadau sydd wedi eu gweld o ran Diwygio Lles ers dechrau鈥檙 Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol, mae yna symudiad ym maint yr eiddo sydd eu hangen o鈥檌 gymharu 芒'r hyn sydd wedi ei ddarparu'n flaenorol drwy dai cymdeithasol. Canlyniad hyn yw galw cynyddol am eiddo nad ydynt ar gael yn barod yn y stoc o dai cymdeithasol na鈥檙 sector rhentu preifat. Mae hyn yn cynyddu amseroedd aros a鈥檙 niferoedd ar y gofrestr dai, yn ogystal 芒 chael effaith ar y nifer o bobl sy鈥檔 cyflwyno鈥檜 hunain fel pobl ddigartref i鈥檙 Cyngor, lle mae gennym ddyletswydd statudol i ganfod llety.

鈥淔elly rydym ar hyn o bryd yn datblygu cynlluniau i gynnwys cynlluniau yng ngham nesaf y rhaglen er mwyn mynd i'r afael 芒 hyn."