Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Diweddariad o Gam 2 Adolygiad Terfyn Cyflymder
Published: 13/09/2018
Bydd gofyn i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu鈥檙 Amgylchedd Cyngor Sir y Fflint nodi鈥檙 cynnydd a wnaed hyd yma ar Gam 2 Adolygiad Terfyn Cyflymder pan fydd yn cwrdd yn ddiweddarach y mis hwn.听
Bydd gofyn i鈥檙 Pwyllgor hefyd gefnogi鈥檙 broses gyfreithiol ddiwygiedig er mwyn symud ymlaen 芒'r Un Gorchymyn wedi'i Gydgrynhoi. Bydd y Gorchymyn hwn yn sicrhau bod gorchmynion terfyn cyflymder yn y Sir yn addas ac yn gyfreithiol a bydd hefyd yn egluro pa geisiadau gan gynghorwyr, am derfynau cyflymder diwygiedig yn eu wardiau, a gefnogwyd gan feini prawf cenedlaethol yr Adran Drafnidiaeth.听
Mae鈥檙 dasg o hysbysebu鈥檙 holl derfynau cyflymder yn y Sir (terfynau cyflymder presennol ac arfaethedig) yn anferthol ac i symleiddio鈥檙 broses mae鈥檙 Cyngor wedi bod yn gweithio i ddatblygu听 gorchmynion ar fap modern (yn hytrach na鈥檙 hen ddull o ysgrifennu gorchmynion).听 Mae鈥檙 gwaith bellach wedi dod i ben ac mae hefyd yn cynnwys Llyfrau Map ar gyfer amryw o leoliadau, er mwyn i鈥檙 cyhoedd allu canfod unrhyw ardal o ddiddordeb.听
Mae arolwg pellach wedi鈥檌 gynnal i gofnodi effaith goleuadau stryd ar ffyrdd 芒 therfynau cyflymder 60mya a 30mya a fydd yn galluogi swyddogion i benderfynu pa derfynau cyflymder a reoleiddir gan 鈥渄diffyg Goleuadau Stryd鈥 a pha derfynau fydd angen eu rheoleiddio gan Orchymyn.听
Rhagwelir y bydd yr un Gorchymyn yn cael ei hysbysebu ar ddechrau 2019.听
O ran ceisiadau gan Gynghorwyr a gefnogwyd gan feini prawf yr Adran Drafnidiaeth, bydd y Cyngor yn hysbysebu鈥檙 15 terfyn cyflymder ym mis Tachwedd 2018, oni bai am y terfyn cyflymder ar yr A5119 Ffordd Llaneurgain, Mynydd Y Fflint a fydd yn cael ei hysbysebu鈥檙 mis hwn (Medi 2018).听
Pan fydd yr un Gorchymyn wedi'i Gydgrynhoi wedi鈥檌 sefydlu, cynhelir adolygiad pum mlynedd o鈥檙 holl derfynau cyflymder presennol o fewn y sir (ac eithrio ardaloedd sydd eisoes wedi鈥檜 harchwilio o fewn ceisiadau Cynghorwyr) i sicrhau eu bod yn cydymffurfio 芒 meini prawf yr Adran Drafnidiaeth gydag unrhyw adolygiad yn cael ei wneud drwy ddiwygio鈥檙 prif Orchymyn wedi'i Gydgrynhoi.
Dywedodd Y Cyng. Carolyn Thomas, Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad:听
鈥淢ae yna anghywirdebau yn rhai o鈥檙 gorchmynion terfynau cyflymder oherwydd newidiadau i elfennau o鈥檙 rhwydwaith ffyrdd a oedd yn arfer dynodi dechrau a diwedd y gorchmynion gwreiddiol.听
鈥淲rth symud tuag at greu un Gorchymyn terfynau cyflymder wedi'i gydgrynhoi rydym ni鈥檔 gallu symleiddio鈥檙 broses gymhleth a defnyddio ein hadnoddau yn fwy effeithiol i fynd i'r afael 芒'r anghywirdebau presennol.听
鈥淏ydd creu system fap electronig yn chwarae rhan allweddol wrth ddod 芒鈥檙 hen broses ysgrifennu Gorchmynion i ben, gan alluogi gweld a hysbysebu terfynau cyflymder yr Awdurdod ar ffurf map syml a hawdd i鈥檞 ddeall.鈥
听