天涯社区

Fel llawer o sefydliadau ledled y byd, rydym ar hyn o bryd yn cael ein heffeithio gan doriad byd-eang Microsoft 365. Mae hyn yn achosi tarfu ar rai o'n systemau a'n gwasanaethau, gan gynnwys e-byst (Outlook).

Mae ein timau TG yn ymwybodol o'r mater ac yn monitro cynnydd Microsoft yn agos wrth iddynt weithio i adfer y gwasanaeth i'r arfer. Ymddiheurwn am unrhyw darfu neu oedi wrth ymateb a allai ddeillio o hyn, a diolch am eich amynedd tra bod Microsoft yn datrys y broblem.

Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu yma cyn gynted ag y bydd mwy o wybodaeth ar gael.

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Diwrnod olaf marchnad y Fflint

Published: 22/08/2018

Yn dilyn adolygiad o farchnadoedd stryd yn gynharach eleni, penderfynwyd cau marchnad y Fflint yn barhaol.

Diwrnod olaf marchnad y Fflint fydd dydd Gwener, 14 Medi 2018.聽聽

Mae鈥檙 dirywiad mewn marchnadoedd stryd ar draws y DU ers nifer o flynyddoedd.聽 Yn y blynyddoedd diwethaf, mae cynaliadwyedd marchnad y Fflint wedi bod o dan fygythiad oherwydd y nifer fechan o fasnachwyr a'r nifer cyfyngedig o gwsmeriaid oedd yn mynychu.

O ddydd Gwener, 21 Medi, bydd Stryd yr Eglwys yn parhau ar agor fel bob diwrnod arall.

Nid yw'r penderfyniad wedi bod yn un hawdd i'r Cyngor a hoffai ddiolch i'r masnachwyr a chwsmeriaid sydd wedi parhau i gefnogi'r farchnad, ond gyda'r niferoedd yn lleihau i'r pwynt lle nad oedd yn ariannol hyfyw, bydd diwrnod olaf y farchnad ar 14 Medi.聽聽