Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Dewch i gwrdd â鈥檙 tîm lleol sy鈥檔 dod o hyd i ofalwyr maeth yn Sir y Fflint
Published: 20/08/2018
Yn Sir y Fflint y llynedd, daeth 69 o blant lleol i ofal maeth. Roedd hyn yn cynnwys 20 o fabis a babanod, pum plentyn oedran ysgol gynradd, 16 yn eu harddegau cynnar ac 20 dros 15 oed.
Roedd y rhan fwyaf o鈥檙 plant hyn yn cael gofal gan y 123 o ofalwyr maeth awdurdod lleol gyda Chyngor Sir y Fflint.
Y rhesymau cyffredin pam mae plant yn dod i ofal maeth yw plant sy鈥檔 cael niwed neu eu hesgeuluso gyda rhieni sy鈥檔 byw bywydau caotig iawn gan gynnwys defnyddio cyffuriau ac alcohol a thrais domestig.
Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint:
鈥淢ae鈥檙 t卯m hwn o bobl ymroddedig yn seiliedig yn y Fflint, a gyda gweithiwr cymdeithasol ymroddedig y plentyn a鈥檙 gofalwyr maeth presennol ar draws y sir, maen nhw鈥檔 gweithio fel t卯m i gefnogi鈥檙 bobl ifanc.
鈥淓in problem yw bod ein gofalwyr maeth arbennig a phrofiadol yn llawn. 听Maen nhw鈥檔 gofalu am blant hirdymor eisoes ac mae gennym blant newydd yn dod i ofal maeth sydd angen cartref cariadus, diogel a gofalgar. Mae ein gofalwyr maeth profiadol yn ymddeol hefyd, ac mae angen gofalwyr newydd arnom i ddechrau maethu.鈥
Mae llawer o wahanol fathau o faethu i weddu i chi a鈥檆h teulu, hyd yn oed dechrau鈥檔 raddol gan gynnig cyfle i blant aros dros nos, neu gynnig cefnogaeth dros benwythnos a gwyliau鈥檙 ysgol. Rydym yn argymell eich bod yn maethu plant sy鈥檔 iau nac unrhyw blant eraill yn eich cartref. Mae鈥檔 bwysig eich bod yn gallu ystyried gofalu am amrywiaeth oedran eang o blant.
Meddai鈥檙 Cynghorydd Jones:
鈥淩ydym yn chwilio am bobl sydd 芒 phrofiad o weithio gyda phlant yn ddelfrydol 鈥 efallai yn eu swydd mewn ysgol, nyrsio neu hyd yn oed fel arweinydd sgowtiaid neu brofiad o fagu eu plant eu hunain. Mae angen pobl arnom sydd 芒 phlant sy鈥檔 o leiaf 10 oed hefyd, neu dros 18 oed yn ddelfrydol. Bydd hyn yn caniat谩u i ni roi ystyriaeth i chi i ofalu am lawer o wahanol blant. Nid oes ots a ydych yn sengl, priod, ifanc neu hen.鈥
Mae t卯m maethu Sir y Fflint yn cynnal sesiynau gwybodaeth yn yr ardal leol i unrhyw un ddod iddynt a dysgu mwy am faethu.
Dydd Iau 20 Medi 7.30pm Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy
Dydd Mawrth 2 Hydref 7.30pm Gwesty Springfield
Dydd Iau 11 Hydref 7.30pm Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy
Dydd Iau 25 Hydref 7.30pm Gwesty Springfield
Anfonwch e-bost at fostering@flintshire.gov.uk i gofrestru i fynychu.
I gael gwybod mwy am faethu, ewch i neu ffoniwch 01352 701965.