Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Sir y Fflint a Wates yn parhau i Adeiladu Dyfodol
Published: 20/08/2018
Mae ceiswyr swyddi wedi cael cyfle arall i sbarduno eu gyrfa gyda datblygwr cenedlaethol, Wates Residential, fel rhan o raglen Cyngor Sir y Fflint i adeiladu 500 o gartrefi newydd sbon ledled y sir.
Mae'r cwrs hyfforddi dwys dwy wythnos, yn cael ei gynnal am y trydydd tro wedi rhoi cyfle i 38 o bobl leol gymryd rhan yn rhaglen genedlaethol 鈥楤uilding Futures鈥 Wates.
Cafodd ymgeiswyr eu recriwtio drwy raglen Cymunedau dros Waith a Mwy Sir y Fflint sy鈥檔 gweithio gyda phobl sy鈥檔 wynebu鈥檙 rhwystrau mwyaf i gael eu cyflogi.
Mae鈥檙 rhaglen hyfforddi yn cynnwys sesiynau sgiliau crefftau adeiladu, gan gynnwys gwaith coed a chynnal a chadw yn ogystal 芒 gweithdai ysgrifennu CV a chyfweliadau gyda Wates Residential a鈥檜 partneriaid cadwyn gyflenwi. Derbyniodd pob ymgeisydd dystysgrif mewn seremoni wobrwyo ar ddiwedd y cwrs pythefnos.
Yn ystod y cwrs ymunodd yr ymgeiswyr 芒 Wates hefyd ar safle hen Ganolfan Melrose yn Shotton lle mae'r datblygwr ar hyn o bryd yn adeiladu pum ty 2 ystafell wely a phedwar o fflatiau 1 a 2 ystafell wely fel rhan o Bartneriaeth Tai ac Adfywio Strategol y Cyngor (SHARP).
Mae darparu Adeiladu Dyfodol yn rhan o swyddogaeth Wates Residential fel datblygwr arweiniol ar gyfer SHARP, a fydd yn gweld 500 o gartrefi newydd yn cael eu creu ledled Sir y Fflint dros y pum mlynedd nesaf.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet Tai a Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir y Fflint:
听鈥淢ae Cyngor Sir y Fflint yn hwyluso mwy o brentisiaethau newydd yn y sir, yn arbennig ym maes adeiladu.听 Mae鈥檙 datblygiad hwn yn flaenoriaeth strategol i鈥檙 Cyngor - gan gynyddu buddion prosiectau cyfalaf megis ein rhaglenni tai lle bydd 拢100m yn cael ei fuddsoddi dros y 5 mlynedd nesaf.鈥
Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet Datblygu Economaidd Cyngor Sir y Fflint, a gyflwynodd y gwobrau:
听鈥淎r ran Cyngor Sir y Fflint, hoffwn ddiolch i bob un ohonoch am gymryd y cam cyntaf a chwblhau鈥檙 rhaglen hon.听 Rydych i gyd wedi bod yn bresennol bob dydd ac wedi cyflawni'r cymwysterau.听 Mae angen pobl fel chi arnom ac mae llawer o gyfleoedd ar gael i chi ddatblygu鈥檙 hyn yr ydych wedi鈥檌 gyflawni hyd yma.鈥
Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Wates Residential North, Richard Shroll:
听鈥淢ae rhaglen SHARP Sir y Fflint, sydd wedi bod yn cael ei redeg ers pedair blynedd yn dod 芒 chartrefi newydd hanfodol i鈥檙 sir ac ers diwrnod cyntaf ein partneriaeth gyda Chyngor Sir y Fflint, rydym wedi cydweithio i sicrhau fod y gwaith pwysig hwn o fudd i bobl leol.
听鈥淩ydym wedi darparu nifer o raglenni Adeiladu Dyfodol llwyddiannus ar draws Sir y Fflint, pob un wedi eu teilwra i ysbrydoli ceiswyr gwaith lleol, meithrin eu sgiliau a鈥檜 helpu i gymryd y camau cyntaf pwysig hynny i yrfa mewn adeiladu yn y dyfodol.鈥
Achredwyd gan y Fframwaith Cymwysterau a Chredydau (QCF). Mae Adeiladu Dyfodol yn rhoi cymhwyster FfCCh Lefel 1 mewn Crefftau Adeiladu a chofrestriad CSCS i ymgeiswyr i鈥檞 helpu i sicrhau hyfforddiant a phrofiad gwaith ar safleoedd adeiladu yn y dyfodol.
听 听听
听 听听