Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Rhannwch eich Cinior haf hwn
Published: 23/07/2018
Yn ddiweddar, lansiodd Cyngor Sir y Fflint, mewn partneriaeth 芒 Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Cymdeithas Tai Clwyd Alyn a Gwasanaethau a Reolir Travis Perkins, eu cynllun plant llwglyd yn ystod y gwyliau yn Theatr Clwyd.
Mae鈥檔 ddatganiad syfrdanol i鈥檞 wneud, ond mae teuluoedd yn Sir y Fflint mewn tlodi bwyd.聽 Tlodi bwyd yw鈥檙 anallu i fforddio, neu gael mynediad i, fwyd i greu diet iach.聽 Mae plant yn llwgu gan na all eu rhieni fforddio prynu bwyd.
Er mwyn helpu i fynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 sefyllfa annerbyniol hon, mae Cyngor Sir y Fflint a鈥檌 bartneriaid wedi ymuno 芒 "Can Cook" er mwyn lansio rhaglen uchelgeisiol "Rhannwch eich Cinio" gyda鈥檙 nod o ddarparu oddeutu 18,700 o brydau am ddim 鈥� hyd at 625 pryd y dydd - dros chwe wythnos gwyliau鈥檙 haf i 20 o gynlluniau chwarae ar draws Sir y Fflint.聽 Mae hon yn fenter enfawr a鈥檙 cyntaf o鈥檌 math yn y rhanbarth.
Mae Can Cook yn fenter gymdeithasol yn Lerpwl a gafodd ei sefydlu yn 2007 fel sefydliad bwyd sy鈥檔 gweithio gyda phobl sy鈥檔 byw yn Ne Lerpwl nad oes ganddynt sgiliau coginio sylfaenol. Maent hefyd yn darparu gwasanaeth arlwyo bwyd ffres ar gyfer lleoliadau gofal ac addysgol ar draws Glannau Mersi 鈥� a bydd hyn yn ymestyn i Sir y Fflint yn fuan. Maent yn arbenigo mewn arlwyo ar gyfer plant 芒 phobl hyn, ac yn darparu gwasanaethau penodol i鈥檙 grwpiau hyn yn bennaf.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet Tai a Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir y Fflint:
聽"Mae Rhannwch Eich Cinio yn brosiect uchelgeisiol a fydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn i gannoedd o bobl yn ein cymuned.聽 Ni ddylai plant orfod llwgu yn yr oes sydd ohoni.聽 Mae hwn yn ymrwymiad aruthrol a'r cyntaf yn y rhanbarth hon.聽 Rydym wedi targedu rhannau o鈥檙 Sir lle mae canran uchel o blant yn derbyn prydau ysgol am ddim.聽 Y rheswm am hyn yw fod y plant hyn yn sicr o gael pryd poeth bum diwrnod yr wythnos yn ystod y tymor ac mae cyfnod y gwyliau haf yn creu her ariannol wirioneddol i鈥檙 teuluoedd hyn ac mae鈥檔 bosibl fod plant yn mynd heb brydau cytbwys."
Dywedodd Hughie Owen, Rheolwr Prosiect gyda Gwasanaethau a Reolir Travis Perkins, sef prif noddwyr y cynllun:
聽"Mae Gwasanaethau a Reolir Travis Perkins wedi ymrwymo i wneud gwahaniaeth go iawn yn ein cymunedau lleol.聽 Credwn fod plant yn haeddu cael y dechrau gorau mewn bywyd ac ni ddylid caniat谩u llwgu yn ystod plentyndod i gael effaith ar iechyd a lles.聽 Mae ymchwil yn dangos fod methu prydau yn rheolaidd yn cael effaith aruthrol ar ymddygiad, lefelau canolbwyntio a datblygiad gwybyddol plant.聽 Mae bwyta prydau iach yn rheolaidd yn galluogi plant i ffynnu, felly rydym wrth ein boddau i gefnogi'r prosiect Rhannwch Eich Cinio."
Mae Robbie Davison o Can Cook a fydd yn darparu鈥檙 prydau dros y chwe wythnos nesaf yn angerddol am y prosiect.聽 Dywedodd:
"Gwnaethom gynnal cynllun tebyg yn Lerpwl y llynedd, ond mae鈥檙 cynllun hwn yn llawer mwy.聽 Mae鈥檔 ffaith drist nad yw 8 o bob deg o'r bobl sy'n llwgu yn y wlad hon yn cael unrhyw gymorth.聽 Rydym ni yma i newid hynny 鈥� mae鈥檙 cynllun hwn yn arbennig o bwysig gan y bydd pob plentyn yn derbyn y pryd gorau posibl bob dydd yn ystod gwyliau鈥檙 ysgol.聽 Dylai pawb sy鈥檔 ymwneud 芒 hyn fod yn hynod falch o'r hyn maent yn cyflawni gyda'i gilydd.聽 Mae鈥檔 debyg mai dyma鈥檙 ymateb mwyaf i blant llwglyd dros y gwyliau yng Nghymru a Lloegr."