Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Bryn y Beili, Yr Wyddgrug yn cael cyllid y Loteri Genedlaethol
Published: 20/07/2018
Cyhoeddwyd heddiw fod Cyngor Sir y Fflint, mewn partneriaeth 芒 Chyngor Tref Yr Wyddgrug a Chyfeillion Bryn y Beili, wedi cael cadarnhad o grant Loteri Genedlaethol o 拢963,700 ar gyfer prosiect ailddatblygu trawsnewidiol ym Mryn y Beili, Yr Wyddgrug.
O ganlyniad i arian a godwyd gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol bydd y prosiect cyffrous ac uchelgeisiol hwn yn sicrhau fod treftadaeth y parc hanesyddol a鈥檙 Heneb hon yn cael ei hamddiffyn ar gyfer cenedlaethau鈥檙 dyfodol tra鈥檔 cadw a datgelu gorffennol rhyfeddol Bryn y Beili. Gyda strwythur llywodraethu newydd mewn grym, yn cynnwys yr holl bartneriaid, bydd y parc yn cael ei reoli鈥檔 well gan gynnig cyfle i bobl gymryd rhan a chynnig dulliau o ddysgu sgiliau newydd. Bydd y buddsoddiad sylweddol a'r gwelliannau i'r ardal fynediad yn gwneud y parc, ei dreftadaeth a'i fannau gwyrdd yn fwy hygyrch i nifer gynyddol o bobl.
Dros y ddwy flynedd nesaf bydd Bryn y Beili yn cael ei adfer a'i hybu i wneud y mwyaf o'i leoliad arbennig fel man geni'r Wyddgrug.聽
Wedi鈥檌 gefnogi drwy Gronfa Treftadaeth y Loteri, bwriad y prosiect yw gwneud y parc yn fwy deniadol i amrediad ehangach o ddefnyddwyr, yn arbennig y gymuned leol ac ymwelwyr 芒 Sir y Fflint, a galluogi鈥檙 parc i gynnal mwy o ddigwyddiadau a gweithgareddau. Er mwyn cyflwyno hanes a gwerth diwylliannol y parc yn eglur ac mewn ffordd ddiddorol a chyffrous, fe fydd dehongliad newydd i鈥檞 weld o amgylch y parc ac yn y cyfleuster cymunedol newydd ar lawr gwaelod Bwthyn y Ceidwad. Bydd gwaith cadwraeth hanfodol yn cael ei wneud ac mae rhaglen addysgol hefyd wedi'i chynllunio gyda hyfforddiant yn cael ei gynnig i wirfoddolwyr a hoffai ymwneud 芒 garddwriaeth, cadwraeth, cynnal a chadw'r adeilad a'r safle, hyfforddiant ar ddehongli a theithiau tywys.
Mae pobl yr Wyddgrug yn ystyried Bryn y Beili fel safle hanesyddol a hamdden pwysig yng nghanol y dref.聽 Mae鈥檔 safle Castell Normanaidd wedi ei adeiladu ar y mwyaf o'r bryniau naturiol yn yr ardal tua 1100 gan Robert, oedd yn Arglwydd Mers Normanaidd. Fe鈥檌 adwaenir fel Robert de Mont Haut / Montalt (鈥榖ryn uchel鈥� mewn Ffrangeg Normanaidd) a daw鈥檙 enw Saesneg 鈥楳old鈥� o鈥檙 enw gwreiddiol a aeth yn Mohault, Moald yn 1284 gan arwain at yr enw a gaiff ei sillafu heddiw yn 1561. Dros y canrifoedd mae llawer wedi digwydd yn y castell ac mae wedi newid dwylo nifer o weithiau rhwng y Tywysogion Cymreig a'r Normaniaid.聽 Bu farw鈥檙 Montalt olaf yn 1329 ac wedi hynny lleihaodd pwysigrwydd y castell.聽 Aeth Arglwyddiaeth a maenor Yr Wyddgrug, gan gynnwys Bryn y Beili, drwy nifer o ddwylo hyd nes y cafodd ei brynu gan Syr Thomas Mostyn yn 1809. Plannodd y coed yma, adeiladu'r Bwthyn a chau'r safle gyda wal.
Yn 1870 gwerthodd yr Arglwydd Mostyn Fryn y Beili a daeth dan reolaeth Bwrdd y Dref a ddaeth yn Gyngor Dosbarth Trefol yr Wyddgrug. Yn 1920 gadawodd Cyngor Dosbarth Trefol Yr Wyddgrug yr ardal gyfan i fod yn faes parcio cyhoeddus, codwyd y gatiau presennol a chodwyd y senotaff gyda'r Beili Allanol yn cael ei ddefnyddio fel cyrtiau tennis a'r Beili Mewnol yn parhau fel lawnt fowlio tan 2002. Ar hyn o bryd Cyngor Sir y Fflint sy'n gyfrifol am y Bryn.
Wrth wneud sylw ar yr arian a ddyfarnwyd dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet dros Addysg ac Ieuenctid:
"Rydym wrth ein bodd ein bod wedi derbyn y gefnogaeth sylweddol hon diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol. Bydd y cyllid hollbwysig hwn yn ein galluogi ni i agor a datblygu llawr gwaelod Bwthyn hanesyddol y Ceidwad er mwyn i'r cyhoedd ei ddefnyddio am y tro cyntaf yn ei hanes hir. Bydd y cyllid hwn yn ein galluogi ni i adrodd straeon pobl sydd wedi defnyddio Bryn y Beili dros y canrifoedd, straeon nad ydynt wedi eu hadrodd o'r blaen. Ein hamcan yw denu ymwelwyr newydd i Fryn y Beili ac i鈥檙 Wyddgrug yn gyffredinol, ac i roi rhesymau i breswylwyr ddod yma a mwynhau鈥檙 parc."
Dywedodd Prif Weithredwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Ros Kerslake:聽
"Gall ein parciau amrywio o ran maint, lleoliad a chynllun ond yr hyn sydd ganddynt i gyd yn gyffredin yw cyfoeth y buddiannau maent yn eu rhoi i gymunedau lleol. O ffyniant economaidd ac amrywiaeth ecolegol i les personol, mae parciau鈥檔 hanfodol i iechyd y genedl. Dyma pam rydym wedi buddsoddi 拢950million o gyllid y Loteri Genedlaethol mewn adfywio parciau fel Bryn y Beili yn yr Wyddgrug ac maent yn parhau i fod yn flaenoriaeth i ni i鈥檙 dyfodol."