Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Cyngor Sir y Fflint - Mae Parciau Cefn Gwlad yn ennill Gwobr Baner Werdd
i Gwobr flaenllaw y Faner Werdd
  		Published: 16/07/2018
Mae Cadwch Gymru鈥檔 Daclus wedi datgelu enillwyr Gwobr y Faner 鈥 marc ansawdd 
rhyngwladol parc neu fan gwyrdd o ansawdd 鈥 ar gyfer eleni.  
Mae 201 o barciau a mannau gwyrdd, y nifer uchaf erioed, yn cynnwys 
prifysgolion, mynwentydd, coetiroedd a rhandir ar draws Cymru, wedi bodloni鈥檙 
safonau uchel sydd eu hangen i dderbyn Gwobr flaenllaw y Faner Werdd a Gwobr 
Gymunedol y Faner Werdd.
Bydd y baneri yn chwifio yn Hyffryn Maes Glas a Pharc Gwepra i gydnabod eu 
cyfleusterau rhagorol a鈥檙 ymrwymiad i gyflwyno mannau gwyrdd o ansawdd gwych.
Mae Dyffryn Maes Glas a Pharc Gwepra yn llawn hanes a bywyd gwyllt.  Maen nhw鈥檔 
leoedd gwerthfawr iawn yn ein cymuned leol ac mae鈥檔 fraint derbyn y Wobr hon ar 
gyfer 2018/19.  
Mae Parc Gwepra yn 160 erw o fan gwyrdd, yng nghanol Cei Connah, Sir y Fflint, 
ac mae鈥檔 lleoliad unigryw gyda鈥檌 amrywiaeth o gynefinoedd a daeareg.  Mae 
nodweddion y parc yn cynnwys; Gerddi鈥檙 Hen Neuadd, Pwll Pysgota, Ffrwd a 
Rhaeadr, a Chastell Ewlo i鈥檙 cyhoedd eu darganfod.        
Mae Parc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas yn Nhreffynnon, Sir y Fflint, ac mae鈥檔 
cynnwys 70 erw o hanes diwydiannol.  Yn hanesyddol, roedd Dyffryn Maes Glas yn 
cyflogi cannoedd o bobl yn ei ffatr茂oedd copr a melinau cotwm ac mae鈥檔 fan 
gwyrdd agored hyfryd nawr.  Mae鈥檙 Dyffryn yn gartref i nifer o henebion 
rhestredig ac mae鈥檔 noddfa i fywyd gwyllt.  Mae Parc Gwepra a Dyffryn Maes Glas 
yn Barciau o safon y mae Sir y Fflint yn falch ohonynt, ac maen nhw鈥檔 hygyrch 
i鈥檙 gymuned eu harchwilio a鈥檜 mwynhau.  
Dywedodd Gwladys Harrison, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Dyffryn Maes Glas; 
鈥淢ae鈥檙 staff a鈥檙 Bwrdd Ymddiriedolwyr yn falch iawn o Ddyffryn Maes Glas, un o 
drysorau Sir y Fflint, ac mae鈥檔 anrhydedd ein bod wedi cyflawni鈥檙 wobr hon am 
flwyddyn arall.  Mae鈥檔 Wobr werthfawr iawn ac mae鈥檔 adlewyrchu ansawdd ein 
mannau gwyrdd lleol.  Hoffem annog y gymuned i gyd yr haf hwn i fynd allan i鈥檙 
awyr agored a mwynhau ein mannau naturiol. 鈥
Dywedodd y Cyng. Carolyn Thomas, Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad;
鈥淢ae鈥檔 anrhydedd i ni ennill gwobr y Faner Werdd ar gyfer Dyffryn Maes Glas a 
Pharc Gwepra.  Mae parciau Sir y Fflint o ansawdd ardderchog ac maen nhw鈥檔 rhan 
werthfawr o鈥檔 cymuned.  Hoffwn ddiolch i鈥檙 holl wirfoddolwyr a staff sy鈥檔 
gweithio鈥檔 galed i gynnal y safonau uchel hyn a chaniat谩u i ni chwifio鈥檙 鈥楩aner 
Werdd鈥.  Mae amrywiaeth o fywyd gwyllt a nodweddion hanesyddol y parciau hyn o 
ddiddordeb mawr i breswylwyr a thwristiaeth ac maen nhw鈥檔 glod i Sir y 
Fflint.      Byddwn i鈥檔 annog pawb i fynd allan i鈥檙 awyr agored yr haf hwn, 
darganfod ein treftadaeth leol ac archwilio ein mannau gwyrdd naturiol.鈥
Cyflwynir rhaglen Gwobr y Faner Werdd yng Nghymru gan yr elusen amgylcheddol, 
Cadwch Gymru鈥檔 Daclus, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru. Caiff ei beirniadu 
gan arbenigwyr mannau gwyrdd, sydd yn gwirfoddoli eu hamser i ymweld 芒 
safleoedd sy鈥檔 ymgeisio a鈥檜 hasesu yn erbyn wyth maen prawf llym, yn cynnwys 
safonau garddwriaethol, glendid, rheolaeth amgylcheddol a chyfranogiad 
cymunedol.
Dywedodd Lucy Prisk, Cydlynydd y Faner Werdd yn Cadwch Gymru鈥檔 Daclus:
鈥淩ydym wrth ein bodd yn dathlu blwyddyn lwyddiannus arall i Wobrau鈥檙 Faner 
Werdd yng Nghymru. Mae鈥檙 201 o faneri sydd yn chwifio yn dyst i ymroddiad a 
brwdfrydedd y staff a鈥檙 gwirfoddolwyr ar draws y wlad sydd yn gweithio鈥檔 
ddiflino i gynnal safonau Gwobr y Faner Werdd.  
鈥淏yddwn yn annog pawb i fynd allan i鈥檙 awyr agored yr haf hwn i fwynhau鈥檙 
parciau a鈥檙 mannau gwyrdd anhygoel sydd gennym ar drothwy鈥檙 drws.鈥
Mae rhestr lawn o enillwyr y wobr ar gael ar wefan Cadwch Gymru鈥檔 Daclus 
www.keepwalestidy.cymru/greenflag 
Gallwch roi eich parc neu fan gwyrdd ar y map drwy gymryd rhan hefyd. Ewch i 
wefan Cadwch Gymru鈥檔 Daclus www.keepwalestidy.cymru am fwy o wybodaeth.
Nodiadau i Olgddion
1. Am fwy o wybodaeth cysylltwch 芒: countryside@flintshire.gov.uk 01352703900 
or info@greenfieldvalley.com 01352 714172
2. Am fwy o wybodaeth cysylltwch 芒 Lucy Prisk, Cydlynydd y Faner Werdd ar 029 
20726964 / 07469 118876 neu anfonwch e-bost at lucy.prisk@keepwalestidy.cymru 
3. Am gymorth cyfathrebu cysylltwch ag Amy Lloyd ar 029 20726985 / 07875 662803 
neu anfonwch e-bost at amy.lloyd@keepwalestidy.cymru 
4. Mae Cadwch Gymru鈥檔 Daclus yn elusen amgylcheddol gofrestredig sydd yn ceisio 
gwella amgylcheddau lleol Cymru. Ewch i鈥檔 gwefan am fwy o wybodaeth: 
www.keepwalestidy.cymru 
5. Mae Gwobr y Faner Werdd yn rhoi cydnabyddiaeth i barciau sydd wedi dangos 
safonau uchel Gwobr y Faner Werdd. Rhoddir pwyslais hefyd ar gyfranogiad 
cymunedol lleol o ran gofal hirdymor y parc sydd wedi cael ei wobrwyo.
6. Mae partneriaeth ar draws y DU sy鈥檔 cael ei arwain gan Gadwch Gymru鈥檔 Daclus 
wedi cael y drwydded i gynnal cynllun Gwobr y Faner Werdd hyd at fis Medi 2017. 
Bydd Cadwch Brydain yn Daclus yn rheoli鈥檙 cynllun cyffredinol o dan drwydded 
gan yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol (CLG) a bydd yn parhau i reoli 
gweithrediadau o ddydd i ddydd yn Lloegr, gyda chyflawniad y gwledydd eraill yn 
cael ei oruchwylio gan ei chwaer-elusennau Cadwch Gymru鈥檔 Daclus, Keep Northern 
Ireland Beautiful a Keep Scotland Beautiful.
7. Am fwy o wybodaeth am Wobr y Faner Werdd yng Nghymru ewch i 
www.keepwalestidy.cymru/greenflag 
8. I wneud cais, ewch i wefan Cadwch Gymru鈥檔 Daclus 
www.keepwalestidy.cymru/greenflag neu cysylltwch 芒 Lucy Prisk, Cydlynydd y 
Faner Werdd ar 029 20726964 / 07469 118876 neu anfonwch e-bost at 
lucy.prisk@keepwalestidy.cymru