Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Dathlu Ysgolion Iach
  		Published: 13/07/2018
Cynhaliwyd digwyddiad Dathlu Cyrhaeddiad blynyddol Ysgolion Iach Sir y Fflint 
yn ddiweddar yn Ysgol Gwynedd, Y Fflint,
Trefnir y digwyddiad ysbrydoledig hwn sy鈥檔 codi鈥檙 ysbryd gan y T卯m Ysgolion 
Iach, sy鈥檔 rhan o Bortffolio Addysg ac Ieuenctid y Cyngor.  Am y drydedd 
flynedd yn olynol, dathlwyd y digwyddiad ar y cyd gyda Cymdeithas Gemau 
Ysgolion Cynradd Sir y Fflint ac yn cydnabod cyraeddiadau ysgolion ym mhob 
agwedd ar addysg iechyd a chwaraeon. 
Daeth disgyblion o ysgolion o bob cwr o鈥檙 sir yno i dderbyn eu gwobrau gan 
Gadeirydd y Cyngor, y Cynghorydd Paul Cunningham, a鈥檌 gymar, Mrs Joan 
Cunningham a Prif Swyddog dros dro dros Addysg ac Ieuenctid, Claire Homard.
Croesawodd Kate Fox-Parry, Cadeirydd Cymdeithas Gemau Ysgolion Cynradd Sir y 
Fflint a Phennaeth Ysgol Cae鈥檙 Nant, bawb i鈥檙 digwyddiad, a oedd yn cynnwys 
perfformiad caboledig gan G么r Ysgol Gwynedd a th卯m dawns creadigol, a 
chyflwyniad gan Ysgol Gwenffrwd ar yr hyn mae鈥檔 golygu i fod yn 鈥淵sgol Iach鈥, a 
pherfformiad codi hwyl gan ddisgyblion Ysgol Bryn Gwalia. 
Cyflwynodd y Cynghorydd Cunningham y Wobr Chwaraeon T卯m y Sir, gan ddweud:
 鈥淢ae heddiw鈥檔 amlygu鈥檙 gwaith ardderchog sy鈥檔 digwydd yn ein hysgolion ar 
draws y Sir.  Mae ystod eang o chwaraeon yn cynnwys rownderi, p锚l-droed, 
athletau, criced a ph锚l-rwyd.  Mae digwyddiadau fel hyn yn dangos ymrwymiad 
parhaus i鈥檙 Cynllun Ysgolion Iach 鈥 da iawn i bawb ynghlwm.鈥
Yna, cyflwynodd Claire Homard wobrau Ysgolion Iach 15 cam 4 a 5 a dilynwyd 
hynny gan wobr fwyaf y bore: y Wobr Ansawdd Genedlaethol ar gyfer Ysgolion 
Iach.  Cyflawnodd tair ysgol, Ysgol Gwenffrwd, Ysgol Uwchradd Elfed ac Ysgol 
Derwenfa, yr achrediad a chafodd pum ysgol arall eu hail-achredu鈥檔 llwyddiannus 
ar gyfer 2017/18 鈥 Ysgol Gwynedd, Ysgol Gynradd Southdown, Ysgol Cae鈥檙 Nant, 
Ysgol Bryn Coch ac Ysgol Gynradd Mountain Lane.
Wrth gyflwyno鈥檙 gwobrau, dywedodd Claire Homard:
 鈥淵 Wobr Ansawdd Genedlaethol yw anrhydedd uchaf y cynllun ac mae鈥檔 rhaid i 
ysgolion gwblhau pum cam cyn iddynt fod yn gymwys ar gyfer y wobr - gall hyn 
gymryd cyfartaledd o 10 mlynedd i鈥檞 gyflawni!  Mae鈥檙 Wobr Ansawdd Genedlaethol 
yn golygu datblygu ymagwedd ysgol gyfan tuag at faterion sy鈥檔 effeithio ar 
iechyd a lles; maent yn cynnwys saith gwahanol thema iechyd, o Iechyd 
Emosiynol, Bwyd a Ffitrwydd i Ddatblygiad Personol a Diogelwch.
 鈥淟longyfarchiadau enfawr i bob ysgol ar gyflawniad o鈥檙 fath!
Ynghyd 芒鈥檙 gwobrau Ysgolion Iach, roedd cyflwyniadau arbennig ar gyfer Abbey 
Mayers o Ysgol Mountain Lane, Maisy Parry o Ysgol Ty Ffynnon a Rose Duggan o 
Ysgol Gynradd Drury, y tair yn ennill y Chwaraewyr Benywaidd Mwyaf Addawol 
2018, ac Oliver Blayney o Ysgol Gynradd Southdown yn ennill y wobr Chwaraewr 
Gwrywaidd Mwyaf Addawol. Gwobrwywyd y Wobr Cyfraniad Arbennig i Chwaraeon yn 
Sir y Fflint eleni i Mrs Kate Fox Parry am ei chyfraniad ac ymrwymiad i 
chwaraeon Sir y Fflint fel Cadeirydd ffederasiwn gemau ysgolion cynradd. Mae 
Mrs Fox Parry yn ymddeol yr haf hwn fel pennaeth Ysgol Cae鈥檙 Nant. 
Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet dros Addysg Sir y Fflint:
 鈥淢ae hwn yn ddathliad arbennig iawn.  Mae鈥檔 bwysig ein bod yn cydnabod 
cyraeddiadau chwaraeon plant a phobl ifanc ac yn dathlu athletwyr talentog ein 
sir.鈥  
 鈥淢ae鈥檙 Cynllun Ysgolion Iach wedi bod yn rhedeg ers 15 mlynedd yn Sir y 
Fflint, ac mae鈥檔 mynd o nerth i nerth.  Mae鈥檔 hyfryd gweld y plant yn cymryd 
rhan mor frwdfrydig ar bob agwedd ar y cynllun ysbrydoledig hwn.鈥