Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Fforwm Mynediad Lleol Sir y Fflint a Wrecsam
  		Published: 13/07/2018
Hoffech chi gael eich llais iw glywed yn y drafodaeth ynglyn 芒 dyfodol 
mynediad cyhoeddus yng nghefn gwlad?
Rydym yn awyddus i glywed gan unrhyw un sydd 芒 diddordeb mewn ymuno a Fforwm 
Mynediad Lleol newydd Sir y Fflint a Wrecsam. 
Rydym eisiau clywed gan unrhyw un sydd 芒 phrofiad mewn rheoli cefn gwlad, er 
enghraifft ffermwyr neu bobl syn defnyddio cefn gwlad yn rheolaidd, er 
enghraifft cerddwyr, marchogion, beicwyr neu yrwyr oddi ar y ffordd.
Pwrpas y Fforwm yw cynghori Cyngor Bwrdeistref Wrecsam a Chyngor Sir y Fflint 
ynglyn 芒 gwella mynediad ar gyfer pwrpas hamdden awyr agored a mwynhad yr 
ardal. Mae hyn yn cynnwys gwelliannau i hawliau tramwy cyhoeddus a hawl 
mynediad i dir agored a thir comin. 
Mae鈥檙 Fforwm yn cyfarfod 4 neu 5 gwaith y flwyddyn, fel arfer yn ystod y dydd. 
Mae hwn yn Fforwm Mynediad Lleol sydd yn gweithio ar draws ardal Siroedd Fflint 
a Bwrdeistref Wrecsam. Mae鈥檔 bwysig fod aelodau yn medru mynychu bob cyfarfod. 
Ni does t芒l ar gyfer gwaith aelodau鈥檙 Fforwm, ond gellir hawlio costau teithio 
rhesymol. 
Dylai unrhyw berson a hoffai gael ei ystyried fel aelod dderbyn manylion 
pellach drwy e-bostio Martin Howarth, Rheolwr Hawliau Tramwy Cyngor Sir Wrecsam 
martin.howarth@wrexham.gov.uk neu Tom Woodall, Rheolwr Mynediad ac Amgylchedd 
Naturiol, Cyngor Sir y Fflint, tom.woodall@flintshire.gov.uk.