Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Erlyniad llwyddiannus o fasnachwr twyllodrus
  		Published: 12/07/2018
Mae t卯m Safonau Masnach Cyngor Sir y Fflint wedi llwyddo i erlyn masnachwr 
twyllodrus yn ddiweddar.
Plediodd Ashley Colin Turner o 83 Chester Road, Huntington, Caer, yn euog i 7 
cyhuddiad o gyflenwi a meddu ar nwyddau ffug o dan y Ddeddf Nodau Masnach 1994.
Yn gynharach y llynedd, fe wnaeth cynrychiolwyr o Rubies Masquerade - cyflenwyr 
gwisgoedd uwch-arwyr, gysylltu 芒 Gwasanaeth Safonau Masnach Cyngor Sir y 
Fflint, i ddweud eu bod wedi canfod cyflenwr gwisgoedd uwch-arwyr ffug ar 
Ebay,   Prynwyd ganddynt fel prawf, a chadarnhawyd fod yr eitem yn ffug gan 
gynrychiolydd o Warner Brothers.  
Gwnaed gwiriadau, a鈥檙 cyflenwr oedd Cestrian Sports yn masnachu o Rowleys Drive 
yn Shotton.  Ym mis Medi鈥檙 llynedd, fe gynhaliwyd chwiliad yng nghyfeiriad 
cartref Mr Turner a鈥檙 cyfeiriad yn Shotton.  Atafaelwyd dau gant a hanner o 
eitemau, lle鈥檙 oedd dau gant a hanner ohonynt yn ffug, gyda gwerth stryd o 
拢7,236.22.  
Derbyniodd y llys bod Mr Turner yn unigolyn o gymeriad da yn flaenorol, a oedd 
wedi sefydlu busnes llwyddiannus ac wedi methu 芒 deall y pwysigrwydd o nodau 
masnach cofrestredig.  Cafodd Mr Turner ddirwy o 拢1,125 ac fe鈥檌 gorchmynnwyd i 
dalu costau ymchwiliad o 拢2,211 ac iawndal o 拢7,236.22 i Rubies, cafodd hefyd 
orchymyn i dalu t芒l ychwanegol o 拢200, gan wneud cyfanswm o 拢10,772.22.
Dywedodd Aelod Cabinet Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd Cyngor Sir y Fflint, y 
Cynghorydd Chris Bithell:
鈥淢ae hwn yn ganlyniad da iawn ar 么l ymchwiliad trylwyr gan Wasanaeth Safonau 
Masnach Sir y Fflint, ac yn esiampl dda o鈥檙 math o ganlyniadau y gellir eu 
cyflawni drwy waith partneriaeth da.  Mae鈥檙 ddirwy a鈥檙 iawndal yn adlewyrchu 
nad yw鈥檙 troseddau hyn heb eu dioddefwyr, fel y tybir llawer.  Dyma ddwyn nodau 
masnach y mae cwmn茂au鈥檔 gwario llawer iawn o arian arnynt iw datblygu, ac mae 
hefyd wedi cael effaith andwyol ar y cwmn茂au hynny sy鈥檔 gwerthu cynhyrchion go 
iawn.鈥
Dywedodd Mike O鈥機onnell, Pennaeth Byd-eang Gwrth-ladrad yn Rubie鈥檚 Masquerade 
Co. (UK) Ltd: 
鈥淒yma ganlyniad ffantastig arall i鈥檙 t卯m yn Rubie鈥檚 yn ein brwydr yn erbyn 
cynhyrchion ffug a鈥檙 rhai sy鈥檔 eu gwerthu. Hoffem fynegi ein diolch ir holl 
swyddogion yn Safonau Masnach Sir y Fflint am eu cefnogaeth a鈥檜 cymorth o 
gychwyn cyntaf y gweithrediad hwn. 
鈥淢ae erlyniadau llwyddiannus fel hyn, yn dangos sut mae masnachwyr twyllodrus 
yn cael eu trechu o ganlyniad i gydweithrediad agos rhwng Rubie鈥檚 a gorfodaeth 
y gyfraith. Gyda鈥檔 gilydd, rydym yn brwydro yn 么l yn erbyn y bygythiad cyson o 
wisgoedd a theganau ffug.
鈥淢ae ein t卯m byd eang yn gweithio鈥檔 helaeth ar ganfod a chael gwared ar 
gynhyrchion ffug, ar draws pob llwyfan masnachu ac yn y siop.
Os yw unrhyw un yn amau eu bod wedi prynu nwyddau ffug neu fod rhywun yn eu 
gwerthu, dylent roi gwybod i Safonau Masnach ar 03454 040506.