Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Gostyngiad yn nhreth y Cyngor i bobl syn gadael gofal
  		Published: 12/07/2018
Bydd Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn derbyn cais i gymeradwyo cyflwyno 
gostyngiad yn 么l disgresiwn ar Dreth y Cyngor i bobl cymwys syn gadael gofal 
pan fydd yn cyfarfod ar yr 17 Gorffennaf. 
Mae Plant Dan Ofal a phobl sy鈥檔 gadael gofal ymysg y grwpiau sydd dan y mwyaf o 
fygythiad o fewn cymdeithas.  Maer adroddiad Breuddwydion Cudd, a 
gynhyrchwyd gan Gomisiynydd Plant Cymru ym mis Mawrth 2017, yn amlygu鈥檙 
anawsterau y mae pobl sy鈥檔 gadael gofal yn eu wynebu wrth geisio rheoli eu 
harian a thalu biliau (yn cynnwys talu Treth y Cyngor) wedi iddynt adael gofal. 
Mae鈥檔 gyfrifoldeb ar y Cyngor i ddarparu鈥檙 dyfodol gorau posibl i bobl sy鈥檔 
gadael gofal wrth iddynt drawsnewid o fod dan ofalaeth yr awdurdod lleol i 
fywn annibynnol. Ar hyn o bryd mae 74 o bobl syn gadael gofal yn Sir y 
Fflint, 31 rhwng 16 ac 18 oed a 44 rhwng 19 a 25 oed.
Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet ar gyfer Gwasanaethau 
Cymdeithasol Sir y Fflint:
 鈥淩ydym eisiau cyflwyno polisi ariannol newydd i bobl sy鈥檔 gadael gofal, a 
chytundeb i ddarparu gostyngiad o hyd at 100% o daliad Treth y Cyngor i bobl 
sy鈥檔 gadael gofal rhwng 18 a 25 oed sy鈥檔 byw yn Sir y Fflint. Mae rheoli cyllid 
yn gallu bod yn hynod o heriol i lawer o bobl, ond hyd yn oed yn fwy i bobl 
sy鈥檔 gadael gofal wrth iddynt droin oedolion ac addasu i fyw yn annibynnol ar 
ben eu hunain neu gydag eraill.  Hoffwn iddo ddod i rym o 1 Ebrill eleni 
oherwydd byddai rhoi鈥檙 gostyngiad yma iddyn nhw yn gymorth enfawr iddynt.  
Mae鈥檙 cynllun ar gael i holl bobl cymwys sy鈥檔 gadael gofal ac yn byw yn Sir y 
Fflint, beth bynnag yw eu hawdurdod darparu gofal.
 鈥淏yddwn hefyd yn darparu gwybodaeth syml er mwyn sicrhau eu bod yn gwybod pa 
gefnogaeth ariannol y maent yn gymwys ar eu cyfer gan y Cyngor.鈥
Mae Llywodraeth Cymru a Chomisiynydd Plant Cymru yn annog yr awdurdodau lleol i 
dderbyn y cynllun gostyngiad i bobl sy鈥檔 gadael gofal. Mae Cymdeithas 
Llywodraeth Leol Cymru (CLLLC) hefyd yn cefnogi鈥檙 cynllun gostyngiad.