Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Adroddiad deddfwriaeth ddigartrefedd 
  		Published: 17/07/2018
Bydd Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn derbyn diweddariad ar reolaeth deddfwriaeth 
newydd o fewn Deddf Tai (Cymru) 2014 pan fydd yn cyfarfod nes ymlaen yn y mis 
hwn.
Gofynnir i鈥檙 Cabinet hefyd gefnogi鈥檙 them芒u sy鈥檔 codi yn y Strategaeth 
Ddigartrefedd Rhanbarthol ac i nodi鈥檙 heriau y mae鈥檙 Cyngor wedi eu hwynebu 
wrth ddod o hyd i opsiynau tai addas i aelwydydd.  Byddant hefyd yn adolygu鈥檙 
cynlluniau i leihau peryglon pellach a bydd gofyn iddynt hefyd gymeradwyor 
cynlluniau i leihau digartrefedd yn y Sir.
Cyflwynodd Deddf Tai (Cymru) 2014 ddeddfwriaeth ddigartrefedd newydd yn Ebrill 
2015. Mae Cynghorau Gogledd Cymru yn datblygu Strategaeth Ranbarthol 芒 
chynlluniau gweithredu lleol ym mhob sir. Mae鈥檙 strategaeth yn datblygun dda a 
chaiff ei chyflwyno ir Cabinet ei chymeradwyo鈥檔 derfynol ddiwedd y flwyddyn.  
Mae鈥檙 them芒u yn cynnwys:  Pobl (digartrefedd ieuenctid, pobl syn cysgu ar y 
stryd, anghenion cymhleth a phobl syn gadael carchar); Cartrefi (Tai yn 
Gyntaf, mynediad gwell at letyau - cyflenwad, llety dros dro); a Gwasanaethau 
(atal, lliniaru diwygiadau lles, iechyd).
Nododd Adolygiad Digartrefedd Sir y Fflint nad yw argaeledd llety fforddiadwy 
ac addas ar draws y sectorau tai yn ddigonol er mwyn cwrdd 芒鈥檙 galw presennol.
Cyflwynodd y ddeddfwriaeth ganolbwynt clir ar atal problemau yn hytrach na dim 
ond helpu pobl sydd mewn argyfwng ac, os caiff ei gweithredun effeithiol, y 
nod yw lleihau nifer yr aelwydydd syn profi trawma digartrefedd. 
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet ar gyfer Tai Cyngor Sir y 
Fflint:
 鈥淢ae swyddogion y Cyngor wedi ymrwymo i weithio鈥檔 galed i sicrhau newid, ac i 
wella bywydau rhai o鈥檙 preswylwyr sydd dan y mwyaf o fygythiad mewn cyfnodau 
anodd.鈥  Mae nawdd yn parhau i ostwng ac mae nawdd grant yn mynd yn anos cael 
mynediad ato, ond dengys yr adroddiad hwn bod Sir y Fflint yn gwneud popeth yn 
eu gallu yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni i fynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 broblem 
gymdeithasol hon.鈥
Yn 2017/18, mi wnaeth 3,495 o aelwydydd droi at y Cyngor am gymorth tai sy鈥檔 
dangos cynnydd o 3.9% ers y flwyddyn flaenorol. Roedd 1,715 o鈥檙 aelwydydd hynny 
wedi eu hasesu yn ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref - gostyngiad o 
39% ers y flwyddyn ariannol flaenorol. 
Y canolbwynt yw atal digartrefedd a galluogi aelwyd i aros yn eu cartref pan fo 
hynny鈥檔 bosibl. I gyflawni hyn, mae鈥檙 gwasanaeth angen cyflenwad o opsiynau tai 
sy鈥檔 fforddiadwy, ond mae diffyg opsiynau ar gael ac ar hyn bydd y gweithredu 
yn canolbwyntio. 
Mae cyflenwad prin o opsiynau addas ar gael.   Maer niferoedd ar y gofrestr 
tai cymdeithasol yn cynyddu ac mae鈥檙 amseroedd aros ar gyfer eiddo gwag yn dod 
yn hirach, yn enwedig ar gyfer ymgeiswyr sengl.  Mae prinder lletyau ar gyfer 
pobl sengl yn her enfawr wrth geisio lleihau digartrefedd.  Gwaethygwyd hyn gan 
y diwygiadau lles amrywiol sydd wedi eu cyflwyno ers 2013. Mae鈥檙 sector rhentu 
preifat yn parhau i fod yn opsiwn tai ar gyfer nifer o bobl ac o safbwynt y 
Cyngor mae鈥檔 darparu opsiwn pellach i unigolion sydd mewn angen brys am dai.  
Mae Gogledd Ddwyrain Cymru (GDdC) yn cynnig cyflenwad pellach o opsiynau sector 
preifat i aelwydydd. Fodd bynnag, mae heriau cynyddol wrth ddod o hyd i eiddo 
addas a fforddiadwy yn y sector rhentu preifat. 
Caiff llety fforddiadwy ar gyfer aelwydydd sengl eu cynnwys mewn cynnig ir 
Gronfa Tai Arloesedd. Bydd y Cyngor yn gwneud cais am nawdd i gefnogi prosiect 
芒r agwedd tai yn gyntaf ac yn darparu tai o ansawdd uchel syn gysylltiedig 
芒 chynlluniau gwaith a chyflogaeth i bobl sengl.  
Yn Sir y Fflint, mae鈥檙 Cyngor wedi ymrwymo i atal cysgu ar y stryd ac ar hyn o 
bryd yn mynd y tu hwnt i鈥檙 ddyletswydd statudol ac yn darparu llety interim i 
unrhyw un nad oes ganddynt le i aros beth bynnag yw eu statws angen 
blaenoriaethol. Mae鈥檙 Cyngor hefyd wedi ymrwymo i leihau鈥檙 defnydd o lety Gwely 
a Brecwast (B&B) fel blaenoriaeth.  Mae gweithredu鈥檙 newid yn cymryd amser, ac 
er i鈥檙 defnydd o wely a brecwast gynyddu yn 2017/18, mae鈥檙 Cyngor wedi dechrau 
gweld niferoedd yn gostwng ac yn wythnos gyntaf Mehefin 2018 nid oedd unrhyw 
deulu mewn llety gwely a brecwast a darparwyd llety i 11 o aelwydydd sengl.