Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Gorfodaeth Amgylcheddol yn Sir y Fflint
  		Published: 12/07/2018
Pan mae Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn cyfarfod nesaf ddydd Mawrth, 17 
Gorffennaf, byddant yn cael y dewis i gefnogi argymhelliad Pwyllgor Trosolwg a 
Chraffu bod y trefniant treialu cyfredol gyda Kingdom ar gyfer darpariaeth 
gorfodi amgylcheddol lefel isel yn dod i ben ar 31 Rhagfyr 2018.
Bydd gofyn i aelodau’r Cabinet gytuno hefyd pe byddant yn adolygu model 
darpariaeth gynaliadwy ar gyfer y gwasanaeth cyn diwedd y trefniant presennol 
mewn adroddiad pellach a gaiff ei dderbyn ym mis Medi. 
Mae sbwriel yn broblem i bob tref a chymuned yn y wlad ac roedd gwaith i gasglu 
sbwriel ar strydoedd a mannau agored yn Sir y Fflint cyn Ionawr 2016 yn costio 
mwy na £300,000 y flwyddyn. Ar ben y gost a’r effaith weledol mae sbwriel yn ei 
chael ar yr amgylchedd, mae mwy a mwy o dystiolaeth yn awgrymu ei fod yn cael 
effaith sylweddol ar yr economi leol ai fod yn cynyddu mathau eraill o 
ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Dywedodd Aelod Cabinet Strydoedd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y 
Cynghorydd Carolyn Thomas:
 “Er y talwyd nifer helaeth o rybuddion cosb benodedig heb wrthwynebiad, mae 
sawl achos proffil uchel yn ddiweddar lle mae amgylchiadau tu ôl i ddyrannu’r 
tocyn wedi bod yn ddadleuol. Mae nifer fechan yr achosion hyn yn tanseilio enw 
dar cwmni a’r Awdurdod, ac mae’r trefniant yn ymddangos yn llawdrwm’ i sawl 
un. Mae nifer o Gynghorau Tref hefyd wedi gofyn bod Kingdom ddim yn cael eu 
cyflogi ar weithgareddau gorfodi yn eu hardaloedd eu hunain.
Argymhellir bod y trefniant presennol gyda Kingdom ddim yn cael ei ymestyn a 
bod y Cyngor yn cynnig adolygiad o’r dewisiadau sydd ar gael unwaith eto ar 
gyfer modelau darpariaeth gwasanaeth cynaliadwy. Bydd hyn yn cynnwys contract 
ffurfiol a model darpariaeth ranbarthol neu isranbarthol gyda’r potensial am 
sefydliad o’r math ‘Teckal’ a fyddai’n darparu’r un gwasanaeth ar ran y Cyngor 
neu ardal ehangach. Yn ystod y cyfnod rhybudd interim, bydd adolygiad o orfodi 
heb oddefgarwch hefyd.