Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Monitro Blynyddol yr Iaith Gymraeg a Chynllun Cydraddoldeb Sengl 
  		Published: 11/07/2018
Cyflwynir Adroddiad Blynyddol Cynllun Cydraddoldeb Strategol ac Adroddiad 
Blynyddol yr Iaith Gymraeg i Gabinet Cyngor Sir y Fflint yn y cyfarfod ddydd 
Mawrth 17 Gorffennaf.
Bydd aelodau鈥檙 Cabinet yn derbyn adroddiadau diwedd y flwyddyn ar gynnydd a 
gofynnir iddynt nodi鈥檙 meysydd ar gyfer gwella.
Mae meysydd o gyflawniad rhagorol yn y Cynllun Cydraddoldeb Strategol, yn 
cynnwys cyhoeddir Archwiliad Cyflog Cyfartal, cynyddu niferoedd o gymunedau a 
busnesau sy鈥檔 gyfeillgar i ddementia a chaffis cof, addasiadau i ysgolion i 
alluogi disgyblion anabl i gael mynediad llawn i gyfleusterau a hyfforddiant 
Cynhwysiant Anabledd ar gyfer gweithwyr canolfan hamdden.
Mae鈥檙 Cyngor hefyd yn cyhoeddi adroddiad blynyddol ar y ffyrdd y mae wedi 
bodloni Safonau Iaith Gymraeg.  Mae nifer o gyflawniadau ar draws sectorau 
gwahanol y Cyngor yn cynnwys:
? Gwasanaethau Cymdeithasol: yn gweithredu 鈥淔framwaith Mwy Na Geiriau鈥 sy鈥檔 eu 
rhoi mewn safle da i gydymffurfio 芒 Safonau a darparu gwasanaethau dwyieithog.
? Theatr Clwyd: yn weithredol wrth godi proffil yr iaith Gymraeg trwy holl 
weithgareddau.
? Cyflawnodd holl ysgolion cyfrwng Cymraeg wobr Arian y Siarter Iaith am eu 
defnydd cynyddol o Gymraeg mewn lleoliadau cymdeithasol a nawr yn gweithio tuag 
at y wobr Aur.
? Mae鈥檙 Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg yn cael ei ddiweddaru ac yn 
strategaeth bwysig er mwyn cynyddur nifer o ddisgyblion syn dysgu trwy 
gyfrwng y Gymraeg a, dros amser,  y posibilrwydd o gronfa o weithwyr syn 
siarad Cymraeg.
Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Rheolaeth Gorfforaethol ac 
Asedau Cyngor Sir y Fflint:
 鈥淣od y Cynllun Cydraddoldeb Strategol yw sicrhaur ddarpariaeth o ddeilliannau 
cadarnhaol ar gyfer pobl gyda nodweddion a ddiogelir megis oed, anabledd, hil, 
rhyw a chyfeiriadedd rhywiol.  Mae Sir y Fflint wedi gwneud camau mawr ymlaen 
yn y maes hwn a byddwn yn parhau i wneud hynny.
 鈥淢ae鈥檙 cyflawniadau mae Sir y Fflint wedi eu cyflawni ar draws y bwrdd er mwyn 
croesawu鈥檙 Safonau Iaith Gymraeg wedi bod yn gadarnhaol.  Rydym yn ymrwymedig i 
godi ymwybyddiaeth o鈥檙 Gymraeg a byddwn yn parhau i annog a chefnogi holl 
weithwyr i ddysgu a defnyddio鈥檙 Gymraeg yn yr amgylchedd waith bob dydd.  Mae 
ein Strategaeth Hyrwyddo鈥檙 Iaith Gymraeg a ddrafftiwyd yn ddiweddar, hefyd yn 
amlygu鈥檙 pwysigrwydd o weithio gyda鈥檔 cymunedau er mwyn uchafu ar gyfleoedd i 
fodloni gweledigaeth Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr erbyn 2050.鈥
Er bod meysydd cadarnhaol o ran cynnydd, mae rhai materion yn parhau, fel 
meysydd ar gyfer gwella, ac mae Sir y Fflint wedi nodi鈥檙 rhain a chynllunio er 
mwyn diogelu gwelliant.  Mae鈥檙 rhain yn cynnwys gwella casgliad data am broffil 
ein cwsmeriaid a hyrwyddo cyfleoedd hyfforddi mewnol. 
Rydym yn parhau i wella ein cynnig iaith Gymraeg fel bod mwy o weithwyr yn 
cwblhau hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith Gymraeg.  Bydd darparu cefnogaeth i 
weithwyr yn helpu i gynyddur nifer o siaradwyr Cymraeg dros amser.  Bydd hyn 
yn cefnogi鈥檙 Cyngor i ddarparu gwasanaethau dwyieithog a bodloni anghenion 
cwsmeriaid Cymraeg eu hiaith.