Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Claddu Capsiwl Amser yn Ysgol Uwchradd Cei Connah
Published: 12/07/2018
Fe fydd capsiwl amser Ysgol Uwchradd Cei Connah yn rhoi cipolwg ar 2018 i genedlaethau鈥檙 dyfodol.
Yn ddiweddar fe groesawodd Ysgol Uwchradd Cei Connah gynghorwyr lleol, gan gynnwys Cadeirydd Cyngor Tref Cei Connah Pam Attridge, sefydliadau partner, swyddogion o鈥檙 Sir, staff a myfyrwyr i seremoni capsiwl amser ar safle鈥檙 adeilad newydd.
Mae鈥檙 gwaith o godi鈥檙 adeilad newydd wedi hen ddechrau ac roedd hwn yn gyfle i ymgynnull ar y safle i ddathlu鈥檙 ysgol heddiw trwy sicrhau y bydd detholiad o wrthrychau perthnasol, gan gynnwys cardiau post, siwrnalau yn dangos 鈥渄iwrnod ym mywyd yr ysgol鈥, straeon lluniau o fywyd Cei Connah, newyddlenni a rhaglenni diwrnod chwaraeon, ar gael i fyfyrwyr yfory pan fyddant yn agor y capsiwl amser yn 2050. Bydd yr adeilad newydd yn cael ei gwblhau erbyn mis Rhagfyr 2018.
Dywedodd y Cynghorydd Andy Dunbobbin, cynghorydd Sir lleol ar gyfer Golftyn Cei Connah a Chadeirydd y Llywodraethwyr:
鈥淩oedd hi鈥檔 wych cael cyfle i siarad gyda disgyblion a gweld yr holl newidiadau trawiadol sy鈥檔 digwydd. Roeddwn i鈥檔 arbennig o falch o gael cyfle i fod yn rhan o baratoadau鈥檙 plant i gladdu鈥檙 capsiwl amser roeddynt wedi鈥檌 lenwi 芒 phethau oedd yn bwysig iddynt. 鈥淕obeithio y bydd hyn yn rhoi cyfle i blant yr ysgol yn y dyfodol gael gweld beth roedd y myfyrwyr presennol yn ei gredu oedd yn bwysig iddynt a gweld sut mae pethau wedi newid.鈥