Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Llwybrau Diogel yn y Gymuned – Ffordd Neuadd Brychdyn, Brychdyn
Digwyddiad Ymgynghori Cyhoeddus
  		Published: 06/07/2018
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn llwyddiannus gan ennill nawdd gan 
Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â phryderon diogelwch ar Ffordd Neuadd 
Brychdyn. Mae cynlluniau’r ddeddf yn cynnwys parth 20mya gyda mesurau gostegu 
traffig. 
Hoffai Cyngor Sir y Fflint groesawu preswylwyr i fynychu digwyddiad galw heibio 
Ymgynghori Cyhoeddus lle bydd swyddogion y Cyngor ar gael i drafod y bwriad ac 
i ateb cwestiynau.  
Caiff yr ymgynghoriad ei gynnal yng Nghanolfan Gymunedol Brychdyn a Bretton, 1 
Brookes Avenue, Brychdyn CH4 0RD ddydd Mawrth 12 Gorffennaf 2018 rhwng 3.30pm a 
7pm. 
Dywedodd y Cynghorydd Carolyn Thomas, Aelod Cabinet ar gyfer Strydwedd a Chefn 
Gwlad,
 “Bydd y cynllun yn gwella diogelwch a hygyrchedd i blant sy’n mynychu Ysgol 
Gynradd Brychdyn a bydd hefyd o fudd ir gymuned leol syn defnyddio 
gwasanaethau ac adnoddau yn yr ardal hon.  Mae gan y cynllun fuddion ehangach 
hefyd am ei fod yn ffurfio rhan o gynllun ehangach i weithredu darpariaeth 
beicio rhwng yr Wyddgrug a Brychdyn ac ymlaen i Sandycroft a Saltney.