Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Llwybrau Diogel yn y Gymuned – Ysgol Gynradd Lôn y Mynydd
  		Published: 05/07/2018
Digwyddiad Ymgynghori Cyhoeddus
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn llwyddiannus gan ennill nawdd gan 
Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â phryderon diogelwch ar y ffyrdd a thagfeydd 
ar Lôn Knowle, Ffordd yr Eglwys a Ffordd Linthorpe, Bwcle er budd y gymuned a’r 
plant sy’n mynychu Ysgol Gynradd Lôn y Mynydd.   
Hoffai Cyngor Sir y Fflint groesawu preswylwyr i fynychu digwyddiad Ymgynghori 
Cyhoeddus lle bydd swyddogion ar gael i drafod y bwriad ac i ateb cwestiynau.  
Cynhelir yr ymgynghoriad yn Ysgol Gynradd Lôn y Mynydd ddydd Mawrth, 17 
Gorffennaf 2018 rhwng 3:30pm a 7pm.